Cryfder y canolwyr: Saith newid i Gymru ar gyfer gêm Japan

Max Llewellyn ac Eddie JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Max Llewellyn ac Eddie James fydd yn dechrau fel canolwyr yn erbyn Japan ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Japan ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ddydd Sadwrn wedi ei gyhoeddi.

Max Llewellyn ac Eddie James sydd wedi eu dewis fel canolwyr, gyda Steve Tandy yn gobeithio y bydd grym corfforol y ddau helpu creu bylchau yn amddiffyn yr ymwelwyr.

Ymhlith y saith newid i'r tîm gollodd yn erbyn De Affrica yn y gystadleuaeth hon ym mis Gorffennaf, fe fydd Sam Costelow yn dechrau fel maswr yn lle Dan Edwards tra bod Tomos Williams yn parhau yn safle'r mewnwr.

Bydd Louis Rees-Zammit a Josh Adams yn dechrau ar yr esgyll gyda Blair Murray wedi ei ddewis fel cefnwr.

Archie Griffin a Nicky Smith fydd yn dechrau yn y rheng flaen gyda'r capten Dewi Lake.

Mae Dafydd Jenkins wedi gwella o anaf diweddar i'w ben-glin a fo fydd yn yr ail-reng gyda Ben Carter.

Alex Mann, Jac Morgan ac Aaron Wainwright sydd wedi eu dewis yn y rheng ôl.

Fe ddechreuodd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ym mis Gorffennaf gyda buddugoliaeth yn erbyn Fiji, cyn iddyn nhw golli yn erbyn Ariannin a De Affrica.

Wedi'r gêm yn erbyn Japan brynhawn Sadwrn, fe fydd Cymru yn croesawu Seland Newydd ac Awstralia i Gaerdydd cyn teithio i Twickenham ar gyfer y gemau ail gyfle ddiwedd y mis.

Dywedodd Steve Tandy ei fod yn falch o weld bod "mwy o gystadleuaeth o fewn y garfan erbyn hyn".

"Ry'n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at chwarae gartref unwaith eto ac mae pawb yn awyddus iawn i osod ein stamp ar y gêm ddydd Sadwrn a dechrau'r cymal nesaf yma o Bencampwriaeth y Cenhedloedd yn gryf."

Tîm Cymru i wynebu Japan

Blair Murray; Louis Rees-Zammit, Eddie James, Max Llewellyn, Josh Adams, Sam Costelow, Tomos Williams; Nicky Smith, Dewi Lake (Capten), Archie Griffin, Dafydd Jenkins, Ben Carter; Alex Mann, Jac Morgan, Aaron Wainwright

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carré,Tomas Francis, Teddy Williams, James Botham, Reuben Morgan-Williams, Dan Edwards, Louie Hennessey

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.