Dedfrydu cyn-athro fu'n rhan o gyfres ddogfen am ymosod yn rhywiol ar ferch

Ritter
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Ritter wedi ymddangos fel athro ar gyfres Educating Cardiff ar Channel 4, ac roedd hefyd yn aelod blaenllaw o fandiau pres

GanIolo Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn bennaeth cynorthwyol a fu'n rhan o gyfres ddogfen Educating Cardiff ar Channel 4 wedi ei ddedfrydu i 33 mis o garchar, wedi'i ohirio am 30 mis, wedi iddo gyfaddef ymosod yn rhywiol ar ferch 17 oed.

Newidiodd Gareth Ritter, 44, o Fryngwyn yn Sir Fynwy ei ble yn ystod yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Merthyr ddechrau Hydref.

Yn y llys, dywedodd y ferch, sydd bellach yn ei hugeiniau, y dylai fod wedi bod yn ddiogel gyda Ritter, gan ychwanegu ei bod yn byw gydag iselder a gorbryder ar ôl yr hyn a ddigwyddodd.

Bydd Ritter hefyd ar gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.

RitterFfynhonnell y llun, facebook

Roedd y rheithgor wedi clywed bod Ritter wedi cynnig gyrru'r ferch 17 oed gartref ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd, ond ei fod wedi stopio mewn fflat oedd yn eiddo iddo ym Mae Caerdydd, a'i gwahodd i mewn.

Dywedodd y ferch iddo gyffwrdd â'i phen-ôl ac yn ddiweddarach ei chusanu heb ei chaniatâd.

Clywodd y llys fod Ritter wedyn wedi gyrru'r ferch adref, gan ofyn dro ar ôl tro a oedd hi'n mynd i ddweud wrth unrhyw un am yr hyn oedd wedi digwydd.

Roedd y ferch wedi penderfynu rhoi gwybod i'r heddlu am y digwyddiad flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl i ffôn Ritter gael ei archwilio gan dditectifs am fater arall "oedd ddim yn gysylltiedig, ac a ddaeth i ben heb gyhuddiadau".

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i ddelweddau preifat o ferch ifanc oedd o dan 18 oed.

Pan wnaeth swyddogion ddod o hyd i'r ferch yn y delweddau, yr un ddynes oedd hi a'r un wnaeth ddweud i Ritter ymosod yn rhywiol arni.

Clywodd y llys bod y delweddau wedi eu cymryd gyda'i chaniatâd, yn ystod sgwrs fideo breifat rhyngddi hi a dyn arall.

Cafodd y delweddau eu storio wedyn ar ddyfais oedd yn eiddo i'r dyn - ond fe gafodd rhai oedd yn byw gyda'r dyn fynediad at y delweddau ac fe'u rhannwyd. Cafon nhw eu darganfod yn ddiweddarach ar ffôn Ritter.

Wrth ddedfrydu Ritter, dywedodd y barnwr bod y ferch wedi dweud wrth y llys ei bod yn poeni pwy fyddai yn ei chredu. Aeth yn ei flaen: "Wel, mae hi wedi cael ei chredu, Mr Ritter, ac mae pawb yn gwybod bod yr hyn a ddywedodd hi wrth y llys yn wir."

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar wedi'i gohirio, bydd yn rhaid i Ritter wneud 250 awr o wasanaeth cymunedol.

Pynciau cysylltiedig