Teyrnged i ddynes 'dyner a phrydferth' fu farw noson Calan Gaeaf

Eleanor O'DellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eleanor O'Dell, 33, ei chanfod yn farw mewn tŷ ar Ffordd Sant Seiriol ychydig wedi 20:00 nos Sadwrn

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dynes "dyner a phrydferth" fu farw wedi digwyddiad yn Llandudno dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddi.

Cafodd Eleanor O'Dell, 33, ei chanfod yn farw mewn tŷ ar Ffordd Sant Seiriol ychydig wedi 20:00 nos Sadwrn, wedi i'r heddlu gael eu galw.

Mae Christopher Thomas Ellis, 36, sydd heb gyfeiriad parhaol, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Ymddangosodd Mr Ellis yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth 3 Tachwedd.

Dywedodd teulu Ms O'Dell mewn teyrnged eu bod wedi eu "llorio" gan eu colled.

"Roedd Eleanor yn berson tyner ac yn belydr o heulwen i bawb," medden nhw.

"Mae hi wedi ei chymryd oddi wrthym ac mae ein calonnau wedi torri.

"Rydym yn gwerthfawrogi'r holl gariad y mae hi wedi'i dderbyn, ac rydym yn ddiolchgar am yr holl eiriau o gefnogaeth."

Ffordd Sant Seiriol
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Heddlu'r Gogledd i gyfeiriad ar Ffordd Sant Seiriol ychydig wedi 20:00 nos Sadwrn

Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney: "Mae ein cydymdeimlad yn parhau gyda ffrindiau ac anwyliaid Eleanor yn dilyn ei marwolaeth drasig.

"Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau, a byddwn yn apelio ar unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Sant Seiriol rhwng 19:00 a 20:30 ddydd Sadwrn, 31 Hydref i gysylltu â ni.

"Efallai eich bod wedi gweld neu glywed rhywbeth, neu fod gennych luniau dashcam neu ffôn symudol a allai gynorthwyo ein hymholiadau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.