Iawn i ddefnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd - Llywydd

sbectol clyfarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r cyfyngiadau presennol ar ffilmio a recordio yn parhau i fod yn gymwys" meddai'r Llywydd

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'n iawn defnyddio sbectol glyfar yn siambr y Senedd, mae Llywydd y Senedd wedi penderfynu.

Dywedodd Huw Irranca-Davies y gellir defnyddio'r dyfeisiau "fel telebrompter", ar yr amod ei fod yn cael gwybod ymlaen llaw.

Sbardunodd Jason O'Connell, o blaid Reform, ddadl ynghylch y dechnoleg pan ddefnyddiodd sbectolau clyfar i draddodi araith yn gynharach eleni.

Wrth ymateb dywedodd ei fod yn falch bod Senedd Cymru yn "edrych tuag at y dyfodol" drwy ganiatáu'r dechnoleg.

Mewn llythyr at gadeiryddion pwyllgorau, dywedodd y Llywydd: "Rwyf wedi penderfynu y caiff Aelodau ddefnyddio sbectol glyfar fel telebrompter yn y siambr, ar yr amod eu bod yn rhoi gwybod ymlaen llaw i mi.

"Gwnaed y dyfarniad hwn ar y sail bod y sbectol ond yn cael ei defnyddio i gynorthwyo wrth draddodi areithiau yn unig.

"Mae'r cyfyngiadau presennol ar ffilmio a recordio yn parhau i fod yn gymwys."

Ychwanegodd: "Y cadeirydd sy'n gyfrifol am weithdrefnau mewn pwyllgorau unigol.

"Felly, mater i chi yw penderfynu a ddylid caniatáu defnyddio sbectol glyfar yn ystod trafodion y pwyllgor, ac at ba ddiben, yn amodol ar y rheolau presennol ar ffilmio a recordio."

Jason O'ConnellFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jason O'Connell ei fod yn defnyddio sbectol glyfar i wella ei sgiliau areithio

Dywedodd O'Connell wrth BBC Cymru yn flaenorol ei fod yn defnyddio sbectol glyfar gyda nodwedd awtociw i'w helpu i draddodi areithiau yn y Senedd. Nid oes camera yn ei sbectol.

Dywedodd ei fod wedi dechrau ei defnyddio i wella ei sgiliau areithio, ac i geisio edrych ar ei nodiadau yn llai aml.

Galwodd Jane Dodds, o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, am waharddiad nes bod rheolau ar waith i safoni'r defnydd o sbectolau clyfar, a sicrhau bod gan Aelodau o'r Senedd fynediad cyfartal iddyn nhw.

Dywedodd O'Connell, sy'n cynrychioli Pontypridd, Cynon a Merthyr ar ran plaid Reform: "Rwy'n falch iawn bod y Llywydd a Chomisiwn y Senedd wedi bod mor flaengar wrth fabwysiadu technoleg newydd yn y siambr."

Awgrymodd y dylai'r ASau hynny sydd yn dymuno "fynd i brynu pâr".

"Maen nhw'n cael eu talu'n dda iawn. A dylen nhw ddefnyddio'r cyflog hwnnw i fuddsoddi mewn unrhyw dechnoleg sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu gwaith."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.