Llywodraeth Cymru'n ystyried gwahardd diodydd egni i rai dan 16 oed

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwahardd gwerthu diodydd egni â lefelau uchel o gaffein i rai dan 16 oed
- Cyhoeddwyd
Gallai plant a phobl ifanc dan 16 oed gael eu hatal rhag prynu diodydd egni â lefelau uchel o gaffein o dan gynlluniau sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl y llywodraeth, mae'r ymgynghoriad yn "gam pwysig ymlaen" wrth ystyried sut y gellid cyflwyno a gorfodi cyfyngiadau o'r fath yng Nghymru.
Yn Lloegr, bydd gwerthu diodydd sy'n cynnwys mwy na 150mg o gaffein fesul litr i blant a phobl ifanc dan 16 oed yn anghyfreithlon mewn siopau, bwytai, caffis, peiriannau gwerthu ac ar-lein o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mae defnydd gormodol o gaffein wedi'i gysylltu â chur pen a phroblemau cysgu
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans, fod y dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu cysylltiad rhwng yfed diodydd egni â lefelau uchel o gaffein a chanlyniadau iechyd negyddol ymhlith plant a phobl ifanc.
Dywedodd fod ymchwil yn awgrymu y gall "yfed y diodydd arwain at gur pen, blinder, poenau stumog a phroblemau cysgu, yn ogystal â chynyddu'r risg o straen, gorbryder ac iselder".
Ychwanegodd fod ymgynghoriad blaenorol gan Lywodraeth Cymru wedi dangos cefnogaeth eang i gyfyngu ar werthu'r diodydd hyn i blant dan 16 oed.
Dywedodd Ms Evans fod "Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu bwrw ymlaen â chynigion i wahardd gwerthu diodydd egni â chaffein uchel i rai dan 16 oed, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad".

Dywedodd Nerys Evans fod tystiolaeth yn awgrymu bod diodydd egni â lefelau uchel o gaffein yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd plant a phobl ifanc
Byddai'r rheolau'n berthnasol i ddiodydd, heblaw te a choffi, sy'n cynnwys mwy na 150mg o gaffein y litr.
Yn ôl y llywodraeth, bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar sut y gellid cyflwyno a gorfodi'r cyfyngiadau, gan gynnwys trefniadau gwirio oedran ar-lein, monitro cydymffurfiaeth, cosbau posibl a'r amserlen ar gyfer rhoi'r mesurau ar waith..
Yn Lloegr, ni fydd y gwaharddiad yn cynnwys diodydd meddal â lefelau is o gaffein, fel Diet Coke, nac ychwaith de a choffi.
Ond byddai diodydd fel Red Bull, Monster, Relentless a Prime yn cael eu gwahardd.
Yn ôl arbenigwyr, gall pobl ifanc fod yn fwy sensitif i gaffein oherwydd bod eu cyrff yn llai a bod eu hymennydd yn dal i ddatblygu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.