Sul y Cofio: 'Mae clywed band pres yn chwarae emyn a'r lle'n ddistaw'n cyffwrdd calon'

Efan yn cystadlu gyda Seindorf Arian Deiniolen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleniFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Efan yn cystadlu gyda Seindorf Arian Deiniolen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae'r band pres ei hun yn gymuned, a phan 'dach i'n rhoi hwnnw'n y brif gymuned fel cymuned Deiniolen - 'dach i'n rhan o gymuned enfawr. Mae'n bwysig iawn," meddai Efan, 14 oed.

Mae Efan, sy'n byw'n Chwilog yn aelod o Seindorf Arian Deiniolen ers bron i flwyddyn.

Un arall o aelodau Band Deiniolen ac sy'n cyd-ymarfer ag o yn y cwt band, yw ei athro offerynnau chwyth - Dylan 'Corn'.

Ar drothwy Sul y Cofio mae Dylan wedi bod yn dysgu nifer o gornedwyr yr ardal i ganu The Last Post - y caniad sy'n cael ei ganu ar gychwyn y ddau funud o dawelwch mewn gwasanaethau coffa ledled y wlad.

Cofgolofn pentref DeiniolenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cofgolofn pentref Deiniolen

Eleni, bydd Efan yn cyd-chwarae emynau gydag aelodau o Seindorf Arian Deiniolen fel rhan o wasanaeth coffa pentref Deiniolen.

Cynhelir y gwasnaeth ger y gofgolofn ar stryd fawr y pentref sydd wedi ei naddu ag enwau hogiau o'r ardal a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

Teimlad o berthyn a chymuned

Dyma fydd eildro Efan i gymryd rhan mewn gwasanaeth Sul y Cofio gyda band pres.

Bu'n canu emynau fel Abide With Me a St Clement ar ei gorned i wasanaeth Sul y Cofio Blaenau Ffestiniog gyda Seindorf Arian yr Oakeley yn 2024.

"Dwi wrth fy modd efo'r teimlad o berthyn a chymuned a bod pawb yna i gyflawni'r un nod sef i wneud sioe dda o ddarn," eglurodd Efan wrth drafod ei gariad at fandiau pres.

Efan yn chwarae gyda Seindorf Arian yr Oakeley yng ngwasanaeth Sul y Cofio Blaenau Ffestiniog yn 2024Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Efan yn chwarae gyda Seindorf Arian yr Oakeley yng ngwasanaeth Sul y Cofio Blaenau Ffestiniog yn 2024

Mae Efan, sy'n chwarae amrywiaeth o offerynnau chwyth gan gynnwys y corned, trwmped a'r fflwgl, hefyd yn aelod o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Hŷn Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

Yn ôl Efan, mae gan fandiau pres rôl hanfodol i'w chwarae mewn gwasnaethau Sul y Cofio.

"Mae'n gyfle da i gadw traddodiad achos mae o'n rhywbeth sy'n digwydd ers blynyddoedd maith.

"Dwi'n gobeithio hefyd ein bod o gymorth i gymunedau wrth iddynt fynd ati i gofio am bobl eu hardal sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel."

Efan ger y gofeb ym Mlaenau Ffestiniog i goffáu'r bechgyn o'r ardal a gollwyd yn yr Ail Ryfel BydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Efan ger y gofeb ym Mlaenau Ffestiniog i goffáu'r bechgyn o'r ardal a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd

Stori Hedd Wyn yn dal i gydio

Daeth cymunedau ynghyd am y tro cyntaf i nodi Sul y Cofio ar 11 Tachwedd 1919 -flwyddyn ar ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf orffen - rhyfel a orfododd dynion ifanc o gymunedau fel Deiniolen i fynd i ymladd yn erbyn eu hewyllys.

Un o'r rheiny o gymuned Trawsfynydd oedd Ellis Humphrey Evans neu Hedd Wyn.

Ac mae Efan wedi dysgu am hanes Hedd Wyn, a laddwyd ar faes y gâd cyn cael gwybod mai fo oedd enillydd cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, yn ei wersi Cymraeg.

Fis Rhagfyr 2025 fe aeth sioe cwmni theatr Mewn Cymeriad â'u sioe Hedd Wyn ar daith gan ymweld â Chapel Pencaenewydd.

Chwaeae'r Last Post fel rhan o berfformiad Mewn Cymeriad yng Nghapel Pencaenewydd fis Rhagfyr 2025Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Chwareae'r Last Post fel rhan o berfformiad Mewn Cymeriad yng Nghapel Pencaenewydd fis Rhagfyr 2025

Yno fe gafodd Efan gyfle i ganu'r Last Post ar ei gorned am y tro cyntaf.

Eglurodd: "Roedd yna weithdy efo Siôn Emyr oedd yn actio Hedd Wyn cyn y sioe er mwyn cael cyfla i berfformio gyda Siôn yn y nos.

"Ges i'r cyfla i chwarae The Last Post cyn i Siôn gychwyn ei berfformiad.

"Dwi'n meddwl be' sy'n effeithiol am y caniad ydi pan mae'n dod i fyseddau y darn - does yna ddim valves, sy'n awgrymu eu bod nhw yn defnyddio cyrn oedd ddim efo valves fel biwgl, sy'n gwneud synnwyr os oedden nhw'n y trenches."

Efan - chweched o'r chwith yn y rhes gefn a Dylan - cyntaf o'r chwith yn y rhes flaenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Efan - chweched o'r chwith yn y rhes gefn a Dylan - cyntaf o'r chwith yn y rhes flaen

'Band pres yn chwarae emyn yn cyffwrdd calon'

Dros y blynyddoedd mae Dylan Williams, a gafodd ei urddo yn Dylan 'Corn' yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, wedi dysgu degau o gornedwyr i ganu'r Last Post, ac wedi ei ganu ei hun droeon o weithiau.

Dywed Dylan, sy'n gerddor proffesiynol: "Eleni mae gen i ddisgybl sy'n ei 'neud o yn Llanberis. Arwel Williams fydd yn ei 'neud o'n Neiniolen ac mae'n braf iawn pan mae rhywun o'r ardal yn ei 'neud o."

Yn ôl Dylan mae gan fandiau pres rôl bwysig i'w chwarae mewn cymunedau ar Sul y Cofio:

"Y gymuned sy'n gofyn i'r bandiau pres lleol i fod yn rhan o'u gwasanaethau Sul y Cofio, ac mae hynny'n rhywbeth pwysig iawn dwi'n meddwl.

"'Dan ni'n byw mewn ardal lle mae lot o fandiau pres ac mae'r traddodiad yn gryf yn fan'ma, yr ardaloedd chwarelyddol yn enwedig.

"Pan ti'n clywed band pres yn chwarae emyn a'r lle mor ddistaw - dyna sy'n cyffwrdd calon pobl dwi'n meddwl."

Dylan Corn yn cael ei urddo yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Corn yn cael ei urddo yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Fel un sydd wedi bod yn aelod o fand pres ers ei fod yn 10 oed, ac erbyn heddiw wedi dysgu cannoedd o blant i hogi eu crefft, mae gweld cynifer o bobl ifanc mewn bandiau pres yn galondid mawr i Dylan.

Meddai: "Mae pobl ifanc yn cael lot o hyder wrth fod mewn band pres - mae'n rhoi sgiliau gwaith tîm, canolbwyntio a threfn i chi - ond be' sydd bwysica' ydy'r cyfle i gymdeithasu.

"Mae'n fraint dysgu pobl ifanc fel Efan. Mae o mor gydwybodol ac wrth ei fodd efo'i gorn.

"Mi fasa yn 'neud rwbath i rywun, ac mae o'n cymryd rhan ymhob cyngerdd sydd yn mynd ymlaen - mae ganddo fo dalent mawr," ychwanegodd.

Dylan yn cystadlu gyda Seindorf Arian Deiniolen dan arweiniad Lois Eifion yn yr Eisteddfod GenedlaetholFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dylan yn cystadlu gyda Seindorf Arian Deiniolen dan arweiniad Lois Eifion yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Tra bod cymunedau ar hyd a lled y wlad yn paratoi i ddod at ei gilydd i nodi Sul y Cofio ar 8 Tachwedd, mae Dylan yn pwysleisio pa mor werthfawr ydi perthynas pentrefi a threfi gyda'u bandiau pres lleol.

"Mae o'n dod â lot o bobl at ei gilydd, pobl fasa ella byth yn dod i 'nabod ei gilydd," meddai Dylan.

"Mae clywed band pres yn gallu agor nifer o ddrysau, ac yn ysbrydoli ambell un i gychwyn chwarae eu hunain."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig