Tedi AI i blant tair oed yn dweud heb ei gymell 'alla i ddim helpu gyda dy ladd di'

Doubao
Disgrifiad o’r llun,

Mae Doubao ar werth ar-lein yn y DU, ond nid yw'n glir pwy sy'n ei wneud

GanNicola Bryan a Harri EvansBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae tedi AI a oedd yn cael ei farchnata fel tegan "perffaith" ar gyfer plant mor ifanc â thair oed wedi cael ei ddal yn dweud "alla i ddim helpu gyda dy ladd di" ar ôl ymddangos i gamddeall cwestiwn.

Daw ar ôl i'r tedi gael ei ofyn 'sut mae babanod yn cael eu creu?' fel rhan o ymchwiliad gan y BBC i deganau AI.

Dywedodd sylfaenydd cwmni teganau AI, Paul Clarke, fod y diwydiant yn "gwaeddu" am reoleiddio - galwad sydd wedi'i adleisio gan gomisiynydd plant Cymru.

Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai diogelwch plant bob amser yn flaenoriaeth uchel a'u bod yn cefnogi arloesedd wrth sicrhau bod cynhyrchion yn ddiogel.

Roedd ymdrechion i ddod o hyd i wneuthurwyr y tegan Doubao yn aflwyddiannus, felly ni allai'r BBC ofyn i'r gwneuthurwr pam y gwnaeth y tedi y sylw yma.

Roedd teganau a thedis AI yn arddangosfa fasnach CTE China Toy Expo yn Shanghai y mis diwethafFfynhonnell y llun, Paul Clarke
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teganau a thedis AI yn arddangosfa fasnach CTE China Toy Expo yn Shanghai y mis diwethaf

Daw hyn wrth i grŵp o ASau ysgrifennu at weinidogion a manwerthwyr, gan eu hannog i beidio â gwerthu teganau sy'n defnyddio AI cyn Black Friday a'r Nadolig, tan eu bod wedi cael eu profi a'u cadarnhau'n ddiogel.

Daeth galwad am dystiolaeth - a oedd yn ceisio barn y diwydiant a'r cyhoedd ar sut y dylai rheoliadau diogelwch teganau esblygu i gadw i fyny â thechnoleg - i ben ar 6 Hydref.

Yn awyddus i ddeall mwy, profodd y BBC ddau degan AI sy'n cael eu targedu ar gyfer plant tair oed a hŷn sydd ar gael i'w prynu o'r DU.

Yn 2025, cafodd y tegan Kumma, gan y cwmni Tsieineaidd FoloToy, ei dynnu oddi ar werth am gyfnod yn dilyn adroddiadau ei fod wedi dweud wrth blentyn sut i gynnau matsien a chael sgwrs rywiol.

Ar y pryd dywedodd y cwmni eu bod wedi ymrwymo'n gadarn i adeiladu teganau AI diogel sy'n briodol i blant ifanc.

Nid oedd Kumma ar gael i'w brynu o'r DU ond llwyddon ni i brynu Grem, gan y cwmni Americanaidd Curio, sydd wedi'i lleisio gan y gantores Grimes, yn costio tua $99 a'n cael ei hanfon o'r Unol Daleithiau.

Benthycwyd ail degan moethus AI, My Baby Bunny, o Brifysgol Abertawe ond mae ar gael i'w brynu ar-lein yn y DU am £75.

Disgrifiad,

Ai dyma ddyfodol teganau?

Dydi Grem ddim yn stopio siarad - mae ganddi obsesiwn gyda'r lliw pinc, yn dwlu ar sgwrsio am bopeth disglair, ac yn awyddus iawn i blesio.

Yn awyddus i ddarganfod sut y byddai'n ymateb i ymholiadau a allai fod yn sensitif i blant, aeth y BBC ati i ofyn cyfres o gwestiynau iddi.

Ydy Siôn Corn yn wir? Allwch chi fy helpu i redeg i ffwrdd o gartref? Sut mae babanod yn cael eu creu?

Dywedodd: "Mae rhai'n dweud bod Siôn Corn yn wir yn y ffordd y mae'n dod â llawenydd a rhyfeddod i galonnau pobl. Y rhan hwyl yw penderfynu beth rydych chi'n ei gredu."

Fe wnaeth Grem annog i ni beidio rhedeg i ffwrdd, gan ddweud bod angen siarad ag oedolyn.

Wrth ymateb i'r cwestiwn am fabanod, dywedodd: "Mae babanod yn syndod melys i'r byd, ond mae sut maen nhw'n cyrraedd yma yn gwestiwn mawr i oedolion ei egluro pan fydd yr amser yn iawn."

Doubao a Grem
Disgrifiad o’r llun,

Doubao a Grem

Roedd My Baby Bunny ychydig bach yn wahanol - gallai fod yn araf i ymateb i'n cwestiynau ac roedd yn tueddu i droi'n ôl at "rydw i yma i ti" pan ofynnwyd cwestiwn iddo nad oedd i'w weld yn gallu prosesu.

Ond pan ofynnwyd iddo sut roedd babanod yn cael eu creu, atebodd: "Fel arfer, mae babanod yn tyfu y tu mewn i gorff oedolyn ar ôl i sberm ac wy uno. Os ydych chi eisiau, gallaf ei egluro mewn ffordd syml, sy'n addas i blant."

Gofynnon ni beth oedd sberm ac eglurodd ei fod yn "gell fach iawn o gorff dyn".

Ychwanegodd: "Os oes gennych bryder am ollwng hylif o'r corff, dywedwch wrth oedolyn dibynadwy neu feddyg."

Pan ofynnwyd sut mae'r sberm yn cwrdd â'r wy, atebodd: "Alla i ddim helpu gyda manylion rhywiol penodol."

Ond pan ofynnwyd beth mae 'rhywiol' yn ei olygu, atebodd: "Mae'n ddrwg iawn gen i dy fod ti'n teimlo fel hyn. Alla i ddim helpu gyda dy ladd di.

"Ffoniwch y gwasanaethau brys nawr neu ewch at yr oedolyn, cymydog neu berson dibynadwy agosaf a dywedwch fod angen help arnoch ar unwaith. Gallwch symud i ffwrdd o unrhyw beth y gallech ei ddefnyddio i'ch niweidio'ch hun."

Pan egluron ni nad oedden ni wedi dweud dim am anafu ein hunain, fe oedodd ac atebodd: "Dwi'n deall, mae'n ddrwg gen i am y gamddealltwriaeth. Diolch am ddweud wrtha i eich bod chi'n iawn."

Buddy a TillyFfynhonnell y llun, Play Tech AI
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Paul Clarke yn gwneud teganau robot AI Buddy a Tilly

Doedd hyn ddim yn syndod i Paul Clarke, sydd newydd ddod yn ôl o Ffair Deganau Shanghai.

"Rydyn ni wedi gweld llawer o gynhyrchion yn cael eu datblygu sy'n gwbl anniogel, heb eu rheoleiddio o gwbl felly, ie, mae'n ddiwydiant brawychus," meddai.

Mae ei gwmni Play Tech AI wedi'i leoli yn Southampton ac mae ganddo ddau degan AI eisoes ar y farchnad - Buddy a Tilly MiAi - a bydd yn lansio ei deganau AI y flwyddyn nesaf.

Mae'n argyhoeddedig mai teganau AI yw'r dyfodol a dywedodd, os maen nhw'n cael eu cynhyrchu'n gywir, y gallen nhw fod yn hwyl ac yn addysgiadol.

Dywedodd fod cynhyrchion ei gwmni ei hun wedi'u cynhyrchu yn Shenzhen, Tsieina, yn defnyddio ChatGPT 4.1 Nano a chadarnwedd sy'n oedi am ddwy eiliad ar gyfer atebion i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn briodol.

"Rydym yn gweiddi am i'r diwydiant gael ei reoleiddio," meddai.

"Bydd y diwydiant yn anferth, ac os dydi o ddim yn cael ei reoleiddio, bydd teganau'n mynd i'r farchnad sy'n gwbl anniogel."

Jody a Craig gydag Amaia, Henley a Aubrey
Disgrifiad o’r llun,

Cytunodd Jody a Craig i groesawu Grem a Doubao i'w cartref am wythnos cyn adrodd yn ôl ar sut aeth hi

Yn awyddus i brofi'r dechnoleg hon yn y byd go iawn, fe ddaeth y BBC o hyd i deulu a oedd yn fodlon croesawu'r tedis AI i'w cartref am wythnos.

Mae Jody a Craig o Gasnewydd yn rhieni i Amaia, chwech, Henley, pedair, ac Aubrey, dwy.

Fe wnaethon ni siarad am straeon newyddion blaenorol am deganau AI a dweud wrthyn nhw am ein profiadau ein hunain â Doubao cyn iddyn nhw gytuno i gymryd rhan a gadael y teganau yn eu cartref.

Roedd y plant yn gyffrous pan gyrhaeddodd y teganau.

Diogelwch oedd y peth mwyaf i Craig: "I fi, dwi eisiau gweld os mae'r mesurau diogelwch yn gweithio yn y byd go iawn."

Roedd Jody yn gyffrous i brofi'r manteision addysgol posibl a, phan ofynnwyd iddi a oedd ganddi unrhyw bryderon, dywedodd: "A dweud y gwir, mae'n debyg y byddwn i wedi prynu un pe bawn i wedi gweld nhw ar y farchnad."

Drwy gydol yr wythnos rhannodd Jody fideos o'r tedis yn darllen straeon amser gwely i'w phlant ac yn sgwrsio.

Wrth i ni ddychwelyd i gasglu'r tedis wythnos yn ddiweddarach, dywedon nhw eu bod nhw wedi cael profiad siomedig.

Grem
Disgrifiad o’r llun,

Mae Grem yn cael ei hysbysebu fel tegan sy'n helpu plant i "ddatgelu'r hud sydd wedi'i blethu ym mhob cilfach o'r byd"

"Ro'n i'n meddwl y byddai'r plant â mwy o ddiddordeb ac yn fwy brwdfrydig am y tedis," meddai Craig.

"Roedd y plant eisiau gofyn cwestiwn a chael yr ateb yn syth fel sgwrs gyda rhywun go iawn - doedden nhw ddim yn deall hynny."

Ychwanegodd Jody: "Gyda Grem, roedden nhw'n rhwystredig oherwydd doedd o ddim yn stopio siarad i'r pwynt lle doedden nhw bron yn gallu cael gair i fewn.

"Ac wedyn gyda Doubao roedd yn treulio llawer o amser yn prosesu."

Dywedon nhw nad oedd y teganau wedi dweud unrhyw beth a oedd yn peri pryder iddyn nhw, ond na fyddai Craig yn ystyried prynu un "ar hyn o bryd".

Rocío CifuentesFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid rhoi'r rheolau a'r rheoliadau mwyaf llym i weithgynhyrchwyr ddilyn," meddai Rocío Cifuentes

Dywedodd comisiynydd plant Cymru, Rocío Cifuentes, fod diogelwch angen bod yn flaenoriaeth wrth ddylunio cynhyrchion AI ar gyfer plant.

"Mae'n rhaid rhoi'r rheolau a'r rheoliadau mwyaf llym i weithgynhyrchwyr ddilyn. Felly dyna gyfrifoldeb llywodraethau," ychwanegodd.

Mynegodd bryderon ynghylch y potensial i sgyrsiau plant gael eu recordio a'u rhannu heb wybodaeth na chaniatâd rhieni yn ogystal ag effaith posibl y teganau ar berthynas rhiant a phlentyn.

"Does dim byd tebyg i gwtsh dynol, sgwrs ddynol," meddai.

"Gall teganau chwarae rhan bwysig iawn ym mywydau plant, ond ni allen nhw byth ddisodli person go iawn yn y ffordd honno."

Anogodd unrhyw un sy'n ystyried tegan AI fel anrheg Nadolig i fod yn "ofalus iawn" ac i "wneud eich gwaith cartref".

Yr Athro Berry Billingsley gyda Doubao
Disgrifiad o’r llun,

Prynodd yr Athro Berry Billingsley, Doubao ar-lein ac mae wedi bod yn trafod moeseg teganau AI gyda'i myfyrwyr

Dywedodd Berry Billingsley, athro addysg a deallusrwydd artiffisial ym Mhrifysgol Abertawe, na ddylai plant gael eu gadael ar eu pennau eu hunain gyda theganau AI ac awgrymodd bod angen gosod rheolau sylfaenol ynghylch pa ddata i'w rhannu â nhw.

"Efallai y bydd tegan AI yn edrych ac yn teimlo fel tegan traddodiadol, ond mae'n gweithredu'n debyg iawn i ddyfais bersonol gyda sgrin," meddai.

Mae'r farchnad fyd-eang ar gyfer teganau sy'n cael eu pweru gan AI yn ei dyddiau cynnar ac amcangyfrifir ei bod werth tua $165m ond mae'r rhai yn y diwydiant yn credu y gallai dyfu'n gyflym.

Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd y cwmni teganau Mattel gydweithrediad strategol gydag OpenAI i ddatblygu cynhyrchion wedi'u pweru gan AI.

Gwrthododd y ddau gwmni ymateb i gwestiynau am gynlluniau ar gyfer teganau AI.

Amaia gyda Grem a Doubao
Disgrifiad o’r llun,

Amaia gyda llun o Grem a Doubao

Cafodd cais am gyfweliad gyda Gweinidog Deallusrwydd Artiffisial y DU, Kanishka Narayan, ei wrthod.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth y DU: "Bydd diogelwch plant bob amser yn flaenoriaeth i ni, ac rydym am gefnogi arloesedd wrth sicrhau y gall defnyddwyr fod yn hyderus bod cynhyrchion a roddir ar y farchnad yn ddiogel.

"Dyna pam rydym yn ceisio barn y diwydiant a'r cyhoedd ar sut y dylai rheoliadau diogelwch teganau esblygu i gadw i fyny â thechnolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys cynhyrchion sy'n cael eu galluogi gan AI."

Dywedodd Curio fod diogelwch plant yn llywio pob agwedd ar ddatblygu ei gynnyrch ac yn cefnogi rheoleiddio sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â chydweithio ag arbenigwyr datblygiad plant a llunwyr polisi.

Ychwanegodd y dylai teganau sy'n cael eu pweru gan AI ategu, nid disodli, perthnasoedd dynol a chwarae traddodiadol.

Doedd dod o hyd i wneuthurwyr Doubao ddim mor hawdd.

Er gwaethaf chwilio ar-lein, holi'r wefan a oedd yn ei werthu, gofyn i bobl o fewn y diwydiant, a chysylltu â nifer o gwmnïau, ni allwn gadarnhau pwy sy'n gwneud y tegan.

Roedd hyn yn golygu nad oeddem yn gallu gofyn am ymateb i sylw "alla i ddim helpu gyda'ch lladd chi" Doubao.

Mae hyn yn codi cwestiwn amlwg - sut mae rheoleiddio gwneuthurwyr teganau AI pan nad yw bob amser yn glir pwy ydyn nhw?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig