'Llŷr Dim Llaeth' fydd gweinidog heb laeth i ysgolion am ddim - AS

"Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad," meddai Llŷr Gruffydd
- Cyhoeddwyd
Gallai'r gweinidog materion gwledig gael ei adnabod fel "Llŷr Dim Llaeth" os yw Llywodraeth Cymru'n dod â'r ddarpariaeth o laeth ysgol am ddim i ben, mae dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru wedi rhybuddio.
Mae ymgynghoriad 10 wythnos ar ddarpariaeth llaeth i ysgolion yng Nghymru ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, sy'n gofyn a ddylid sefydlu Cynllun Llaeth Ysgol Cymru, neu a ddylid dod â'r ddarpariaeth o laeth ysgol am ddim i ben.
Dywedodd Laura Anne Jones, y cyn-AS Ceidwadol sydd bellach yn ddirprwy arweinydd Reform yng Nghymru, na ddylai'r ail "hyd yn oed fod yn opsiwn yn yr ymgynghoriad" ac y byddai'r llysenw 'Llŷr Dim Llaeth' yn glynu at y gweinidog fel y gwnaeth 'Thatcher the milk snatcher' at gyn-Brif Weinidog Ceidwadol y DU, Margaret Thatcher.
Dywedodd Llŷr Gruffydd, y gweinidog cabinet dros wydnwch gwledig a chynaliadwyedd: "Mae gen i farn ar hyn, a byddaf yn mynegi fy marn drwy'r broses ymgynghori, fel y gobeithiaf y bydd yr holl Aelodau eraill a'r cyhoedd yn ehangach yn ei gwneud."

"Mae pob plentyn yn haeddu cael y budd maethlon" o laeth, meddai Laura Anne Jones
Yn Siambr y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd Laura Anne Jones: "Mae eich llywodraeth yn ymgynghori ynghylch a ddylid disodli neu ddileu'r cynllun sy'n rhoi llaeth am ddim i'r disgyblion ieuengaf yn ein hysgolion yn ystod y dydd, ac yn ei gefnogi'n ariannol hyd at flwyddyn 6 os gofynnir am hynny.
"Roedd Margaret Thatcher yn iawn am lawer o bethau, ond roedd hi'n anghywir yn hyn o beth: ni ddylai fod wedi tynnu llaeth o'r ysgolion o gwbl.
"Efallai mai 'Thatcher the Milk Snatcher' oedd hi ddegawdau yn ôl, ond 'Llŷr Dim Llaeth' ydyw nawr – ac efallai mai dyna'r llysenw a fydd yn glynu."
Ychwanegodd, "nid yw'n ddigon da darparu llaeth i glybiau brecwast yn unig; mae pob plentyn yn haeddu cael y budd maethlon hwnnw, sy'n cefnogi ein ffermwyr llaeth a'n heconomïau lleol ledled Cymru."
Atebodd Llŷr Gruffydd: "Nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar ddyfodol y cynllun cymhorthdal llaeth ysgol, ac mae ymgynghoriad ar y trefniadau yn y dyfodol, ond mae hynny'n digwydd oherwydd bydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn rhoi'r gorau i weinyddu'r cynllun ar gyfer Cymru ar ôl diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
"Ac mae'r ymgynghoriad yn ystyried dau opsiwn: cyflwyno cynllun newydd, a ddarperir drwy drefniadau ariannu bwyd ysgol presennol neu, ie, dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth pwrpasol i ben.
"Ond byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
"Ac fel y gweinidog dros faterion gwledig, mae gen i farn ar hyn a byddaf yn mynegi fy marn drwy'r ymgynghoriad, fel y gobeithiaf y bydd yr holl Aelodau eraill a'r cyhoedd ehangach yn ei wneud."

Fel ysgrifennydd addysg, cyn dod yn brif weinidog y DU, gwnaeth Margaret Thatcher benderfyniadau dadleuol ynglŷn â thorri gwariant ysgolion – a arweiniodd at y wasg boblogaidd yn ei galw'n "lleidr llaeth"
Ar hyn o bryd mae'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol yn darparu llaeth am ddim i ddysgwyr yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 2 a llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr ym mlynyddoedd 3-6 ac mae'n cael ei weinyddu gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) ar ran Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, bydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn rhoi'r gorau i ddarparu'r cynllun i Gymru ar ôl 31 Mawrth 2027.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch a ddylid sefydlu Cynllun Llaeth Ysgol Cymru, neu a ddylid dod â'r ddarpariaeth o laeth ysgol am ddim i ben.
Waeth beth yw canlyniad yr ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio y bydd llaeth yn parhau i fod ar gael i blant oedran cynradd trwy glybiau brecwast ac amser cinio trwy'r rhaglen prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd.
Yn ogystal, mae'r ymgynghoriad yn ategu datblygiad strategaeth fwyd genedlaethol Cymru.
Un o nodau'r strategaeth hon fydd cynyddu'r defnydd o gynnyrch o Gymru ar draws y system fwyd, gan gynnwys mewn ysgolion.
Bydd yr ymgynghoriad , dolen allanolyn cau ar 4 Ionawr 2027.
Yn 1970, naw mlynedd cyn iddi gyrraedd Rhif 10 fel prif weinidog y DU, penderfynodd Margaret Thatcher fel Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg ddod â llaeth ysgol am ddim i ben.
O ganlyniad, roedd rhai yn y wasg yn ei galw'n "Thatcher, Thatcher Milk Snatcher".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.