Dyn o Wynedd yn cyfaddef bod â dogfennau terfysgol yn cynnwys llawlyfr IRA

- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wynedd wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad o feddu ar ddogfennau a allai fod yn ddefnyddiol at ddibenion terfysgaeth.
Yn Llys y Goron Lerpwl, plediodd Jac Glyn Pari Edwards, 23, o'r Bermo, yn euog i bob un o'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn.
Roedd Edwards wedi cael ei gyhuddo o feddu ar gofnodion a fyddai'n debygol o fod yn ddefnyddiol i berson sy'n cyflawni neu'n paratoi gweithred o derfysgaeth.
Clywodd y llys fod y deunydd yn cynnwys llawlyfr yr IRA, The Anarchist Cookbook, sy'n cynnwys gwybodaeth am greu ffrwydron, llawlyfr ar weithrediadau glanhau ethnig, a llawlyfr ar ryfela guerrilla.
Yn y llys ddydd Gwener, cadarnhaodd Edwards ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni cyn cyflwyno ei ble.
Roedd wedi wynebu cyhuddiad ar wahân o feddu ar arf tanio yn flaenorol, ond cafodd y cyhuddiad ei ollwng.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad y byddai'n ceisio cael adroddiad ar iechyd meddwl Edwards.
Dywedodd fod pryderon y gallai salwch meddwl fod wedi effeithio ar ei "atebolrwydd".
Dywedodd y Barnwr Dennis Watson KC ei fod am i adroddiad gael ei baratoi cyn y cam nesaf yn yr achos.
Cafodd Edwards ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 22 Ionawr.
Gohebu ychwanegol gan Newyddion S4C
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.