Camu nôl mewn amser i siop unigryw yng Nghaernarfon
Mae'r pensaer Owain Evans eisiau diogelu'r siop sydd heb ei newid ers degawdau
- Cyhoeddwyd
"Mae'n union fel yr oedd o ganrif yn ôl, mae wedi rhewi mewn cyfnod arbennig o amser pan oedd pob math o siopau i'w cael yn nhref Caernarfon."
Dyna eiriau'r pensaer Owain Evans wrth gamu fewn i hen siop o Oes Fictoria. W. Williams Jones.
Ar stepen drws ffrynt y siop mae mosaig heb un deilsen wedi'i disodli yn hysbysebu'r ffaith fod deunydd optegol yn cael ei werthu yn y siop.
Tu ôl i'r gwydr mae hen focsys yn cael eu harddangos, fyddai fase wedi gwerthu watshis y cyfnod.
Mae'r siop wedi bod ar gau ers peth amser, ond wrth agor y drws a chamu fewn mae fel edrych ar siop o gyfnod y 19fed ganrif.
Cafodd Aled Hughes gipolwg ar y siop yng nghwmni Owain Evans, wrth i gynlluniau gael eu gwneud i roi gwedd newydd ar y siop a'i hachub hi rhag mynd yn adfail.

Rhai o'r hen nwyddau oedd wedi eu gadael ar ôl yn y siop
Dywedodd Owain Evans: "'Di o heb gael ei dwtshad dros y 100 mlynedd. Mae o wedi ei restru fel adeilad gradd dau ac mae'r gwaith mor gywrain yma," meddai.
Roedd y siop ar un cyfnod yn gwerthu gemwaith a chyn dyddiau ble oedd pobl yn mynd i gael prawf llygaid, roedd y siop hefyd yn gwerthu sbectols i'w cwsmeriaid.
Mewn adroddiad papur newydd yn 1909 cafodd y siop ei disgrifio fel un o'r rhai mwyaf modern yng ngogledd Cymru ac mae CADW heddiw wedi'i disgrifio fel adeilad "unigryw i Gymru".
'Dic Doc'
Ychwanegodd Owain Evans: "Mae'r adeilad ei hun wedi'i adeiladu nôl ar ddechrau'r 18fed ganrif a rhyw 90 mlynedd wedyn, newidiodd y siop ffrynt yng nghyfnod William Jones. Brodor o Abererch oedd o mae'n debyg yn rhedeg siop fel siop gemwaith.
"Odd o'n creu pethau fel tameidiau o arian fel llwyau dal siwgr.
"Roedd y rhain i gyd yn cael eu creu mewn gweithdy yn y cefn ac yn trwsio'r watsys ac ati."
Yn ddiweddarach, perchennog mwyaf diweddar y siop nes rhyw ddegawd yn ôl oedd Richard Jones, neu Dic Doc fel yr oedd yn cael ei adnabod yn lleol.
"Roedd o'n agor ei siop tua pump neu chwech y prynhawn, ac yma oedd pobl yn dod i brynu ei modrwyau cyntaf neu eu watsh gyntaf efo'u cyflog cyntaf," meddai Owain.
Yn ogystal â'r hen ddodrefn fel byrddau mahogani mae stof wreiddiol y siop dal yno hefyd ac mewn cyflwr arbennig.
"Mae'n wych fod y lle tân dal yma heb ddifrod; mae 'na ddrysau wedi bod ar gau yma mwy neu lai a neb yn defnyddio'r lle," meddai Owain.

Tu allan y siop ar Stryd Bangor gyda'r arwydd gwreiddiol
Er mwyn sicrhau nad yw'r siop yn disgyn yn ddarnau mae gwaith cynllunio manwl yn digwydd ar hyn o bryd gyda'r bwriad o roi gwedd newydd i'r hen siop.
"Mae'n rhaid i ni neud bywyd newydd i'r adeilad. Y syniad sgyno ni ydi i gadw'r adeilad ac i 'neud cyn lleied o newid, dim ond newid layout yr adeilad.
"Y syniad ydi i gadw'r siop wreiddiol ac i 'neud swyddfa lle all pobl ei bwcio hi ar-lein.
"Uwchben y swyddfa wedyn fydd gynnon ni bedwar fflat a gobeithio cadw pob dim o fewn y stafelloedd sut 'ma nhw.
"Dyna'r syniad, cadw'r hen siop rhag disgyn yn ddarnau," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Medi

- Cyhoeddwyd11 Medi
