Rhys Maher: O guro drysau Casnewydd i ganfasio yn Georgia, UDA

cefnogi CaitlynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
GanIfan Ywain
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Gyda'r Democratiaid wedi gwneud enillion sylweddol yn etholiadau canol tymor yr Unol Daleithiau, mae Cymro a fu'n ymgyrchu dros y blaid yn dweud bod y canlyniad yn "lot gwell na'r disgwyl".

Y gred yw mai nhw fydd yn cymryd rheolaeth o'r Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr - rhywbeth all effeithio yn fawr ar allu'r Arlywydd Trump i lywodraethu.

Partner Rhys Maher o Gasnewydd, Caitlyn Gegen, oedd ymgeisydd y Democratiaid yn 9fed rhanbarth Georgia, ac er na enillodd hi, fe wnaeth hi gynyddu'r bleidlais i'r Democratiaid.

Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast fore Mercher, bu Rhys yn trafod pwysigrwydd y canlyniadau a'r gwahaniaeth rhwng canfasio yng Nghasnewydd a chefn gwlad America.

Esboniodd Rhys fod Caitlyn wedi bod yn weithgar yn wleidyddol ers iddo gwrdd â hi tra ar wyliau rai blynyddoedd yn ôl.

"O'dd hi wastad moyn cyfrannu yn wleidyddol at Georgia," meddai.

"O'dd hi'n hyderus fod gwleidyddiaeth fwy blaengar heb gael y llais y dyle fe wedi ei gael yn Georgia, a dwi'n credu bod hi wedi dangos bod yna appetite i symud yn y cyfeiriad yna - er efallai bod hi heb lwyddo i ennill."

Roedd Caitlyn yn sefyll mewn sedd sy'n cael ei hystyried yn un ddiogel i'r Gweriniaethwyr, ond yn ôl Rhys, mae ei gwaith yn mynd tu hwnt i ennill neu golli'r sedd.

"'Nath hi lot o waith yn ei hymgyrch hi i hyfforddi interniaid, felly adeiladu at isadeiledd y blaid yn yr ardal yw un o'r targedau yn yr hirdymor."

Elin Maher, mam Rhys, yn dangos ei chefnogaeth i CaitlynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Elin Maher, mam Rhys, yn dangos ei chefnogaeth i Caitlyn

Esboniodd ei fod wedi treulio ambell ddiwrnod allan yn ymgyrchu gyda Caitlyn ym mis Medi a mis Mai.

"Ma' fe 'di bod yn brofiad diddorol. Ges i brofiad yn ymgyrchu ar gyfer etholiad y Senedd 'nôl yng Nghasnewydd. Ma' 'na lot o bethau sy'n wahanol, ond mae 'na sawl peth sy'n debyg hefyd," meddai.

"Un o'r prif wahaniaethau yw just pa mor bell ma' pob tŷ o bob cartref arall!

"Os chi'n mynd mas i ganfasio yng Nghasnewydd chi'n gallu gwneud 50-100 o ddrysau mewn awr, ond chi'n lwcus i 'neud 20 mewn awr mewn nifer o ardaloedd yn Georgia."

'Llwyddo i ysbrydoli eraill'

Er bod yna rywfaint o siom personol wrth i Caitlyn fethu ag ennill sedd, mae'r etholiadau wedi bod yn noson o lwyddiant ysgubol i'r Democratiaid.

"Mae hi 'di bod yn ymgyrch prysur iawn a beth sydd wastad yn bwysig i ystyried yw, efallai nad yw hi wedi ennill, ond ma' sawl etholiad arall yn digwydd yr un pryd," meddai.

"Felly er nad yw Caitlyn wedi ennill, fi'n siŵr ei bod hi wedi llwyddo i ysbrydoli sawl un arall i fynd mas i bleidleisio.

"Tu hwnt i'n ras ni mae hi wedi bod yn noson ffantastig i'r Democratiaid. O'dd 'na lot o seddi seneddol o'dd pobl yn obeithiol y byddai'r democratiaid yn gallu ennill... ond ar draws y wlad ma' fe di bod yn ganlyniad lot gwell na'r disgwyl, er bo' ni'n disgwyl canlyniad da yn y lle cyntaf."

Ychwanegodd ei fod yn credu mai costau byw oedd y prif reswm fod y Gweriniaethwyr wedi colli gymaint o dir.

"Y prif beth y mae bron pawb wedi bod yn cwyno amdano yw costau petrol.

"Pan ni'n ystyried yr ardal mae Caitlyn 'di bod yn ymgyrchu ynddi, mae'n ardal sydd, yn y de, yn suburban iawn gyda lot o bobl yn gyrru i'r gwaith. Wedyn yn y gogledd mae lot o bobl yn gweithio ym myd amaeth felly mae cost petrol yn uffernol o bwysig i bobl sy'n gweithio yn yr ardal.

"Dyna yw'r rheswm, mwy na thebyg, oherwydd y penderfyniad i fynd i ryfel yn Iran, fod y Gweriniaethwyr wedi dioddef gymaint yn yr etholiad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig