Arestio dau ar amheuaeth o esgeuluso plant mewn meithrinfa

Meithrinfa Greenfields
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd yr heddlu ymchwilio i'r mater ar ôl derbyn gwybodaeth gan y cyngor sir

  • Cyhoeddwyd

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plant mewn meithrinfa yn Sir Caerffili.

Cafodd dyn 49 oed o Gaerdydd a dynes 29 oed o ardal Caerffili eu harestio ar ôl i Gyngor Caerffili godi pryderon am faterion iechyd a diogelwch ym Meithrinfa Greenfields yn y Coed-duon.

Mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Dywedodd Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) eu bod wedi cael cais gan berchnogion y feithrinfa i ganslo eu cofrestriad.

'Diogelwch a lles y plant yw'r flaenoriaeth'

Mae CIW yn dweud eu bod wedi gwahardd cofrestriad y feithrinfa ar 20 Hydref er mwyn "sicrhau diogelwch a lles y plant" ac er mwyn "hwyluso rhagor o ymchwiliadau".

"Mae CIW yn deall y gallai hyn fod yn achos pryder i rieni a gofalwyr a hoffwn bwysleisio mai diogelwch a lles y plant yw ein blaenoriaeth," meddai llefarydd.

"Dylai rhieni a gofalwyr sy'n edrych am drefniadau gofal plant arall gysylltu gyda'u gwasanaeth gwybodaeth i rieni lleol."

Dywedodd y ditectif arolygydd, Gavin Wilkes o Heddlu Gwent ei fod yn "deall fod honiadau o'r natur yma yn achosi pryder".

"Rydym yn cydweithio gyda'n partneriaid ac yn cynnal ymchwiliad manwl i'r mater," ychwanegodd.

Mae'r llu yn dweud eu bod yn ymwybodol o bobl yn trafod yr achos ar-lein ac maen nhw'n galw ar bobl i beidio â rhannu sylwadau tra bod yr ymchwiliad ar waith.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â Heddlu Gwent.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig