Tân ym Melin Wlân Ceulan yn Nhal-y-bont, Ceredigion
Tân yn dinistrio hen felin yn Nhal-y-bont, Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Cafodd criwiau tân eu galw i Felin Wlân Ceulan yn Nhal-y-bont, Ceredigion, nos Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 19:30, ac roedd y digwyddiad wedi dod i ben fwy na phedair awr yn ddiweddarach.
Aeth tri chriw o Aberystwyth ac un o Fachynlleth i'r safle er mwyn diffodd y tân.
Does neb wedi cael ei anafu.

Roedd Melin Ceulan, sydd ar lan afon Ceulan, yn felin wlân brysur a llewyrchus ar un adeg, ond caeodd yn ystod y 1950au.
Roedd peiriannau mawr, gan gynnwys gwyddiau a fframiau gwehyddu, yn llenwi tri llawr yr adeilad, ond mae wedi aros yn wag ers cau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
