Heddlu arfog yn ymateb i ddigwyddiad yn Abertawe

llunFfynhonnell y llun, ATHENA
GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion heddlu arfog yn ymateb i ddigwyddiad yn ardal Treforys, Abertawe.

Mae trigolion wedi cael eu hannog i osgoi'r ardal, ac mae nifer o ddigwyddiadau wedi'u canslo, gan gynnwys arddangosfa tân gwyllt leol.

Mae fideos sy'n cael eu rhannu'n lleol yn dangos swyddogion heddlu wrth ymyl car sydd wedi stopio ar Clase Road, ger archfarchnad ASDA. Mae'n ymddangos bod y car wedi'i daro gan ergyd gwn.

Roedd hofrennydd Gwasanaeth Hedfan Cenedlaethol yr Heddlu i'w weld yn cylchu uwchben yr ardal, ond mae bellach wedi dychwelyd i'w ganolfan.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru fod y digwyddiad yn parhau.

Mewn datganiad byr, dywedodd y llu fod swyddogion yn delio â digwyddiad ar yr A48, Clase Road, ger Castle Bingo yn Nhreforys.

Ychwanegodd fod rhan o'r ffordd wedi'i chau, gan annog gyrwyr i osgoi'r ardal a chynllunio eu teithiau ymlaen llaw.

Mae clwb pêl-droed lleol, Morriston Town AFC, hefyd wedi canslo arddangosfa tân gwyllt oedd i fod i gael ei chynnal.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y clwb:

"Yn anffodus, mae'r heddlu wedi ein hysbysu bod angen canslo'r digwyddiad oherwydd sefyllfa sy'n parhau. Mae hyn yn dod i rym ar unwaith.

"Rydym yn cynghori pawb i aros gartref."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.