Prydau ysgol am ddim i filoedd yn fwy o blant uwchradd yn 'gam cyntaf pwysig'

Mae disgwyl i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnig y cynllun estynedig erbyn mis Ionawr 2027
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd yn rhagor o blant yn nwy flynedd gyntaf ysgolion uwchradd o gartrefi incwm isel yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth i'r cynllun gael ei ehangu gan Lywodraeth Cymru.
Bydd disgyblion blwyddyn 7 ac 8 o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol yn gymwys waeth beth fo incwm yr aelwyd, mae gweinidogion Plaid Cymru wedi cadarnhau.
Mae'r polisi yn dileu trothwy enillion o £7,400 a oedd, yn flaenorol, yn cyfyngu ar gymhwysedd i deuluoedd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol.
Disgwylir i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnig y cynllun estynedig erbyn mis Ionawr 2027.
Mae pob disgybl mewn ysgolion cynradd gwladol yng Nghymru eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim.

"Ry'n ni'n amcangyfrif y bydd 'na 50,000 yn ychwanegol o ddisgyblion nawr yn gymwys i dderbyn prydau bwyd am ddim," medd Anna Brychan
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan: "Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn nodi'r cam cyntaf yn ein hymrwymiad i estyn prydau ysgol am ddim i ragor o ddysgwyr ysgolion uwchradd, gan sicrhau bod y cymorth hwn yn cyrraedd y teuluoedd sydd ei angen fwyaf.
"Mae cael mynediad at fwyd maethlon yn gwella gallu rhywun i ganolbwyntio, yn cefnogi cyrhaeddiad addysgol ac yn hybu iechyd yn gyffredinol."
Mae'r gweinidog yn annog rhieni a gofalwyr plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy'n gymwys, i fynd ati i gofrestru gyda'u hawdurdod lleol er mwyn manteisio ar y cynnig hwn o brydau ysgol am ddim.
Cyflwynwyd prydau ysgol gynradd am ddim mewn cyfnodau rhwng mis Medi 2022 a mis Medi 2024, fel rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng llywodraeth flaenorol Llafur Cymru a Phlaid Cymru.

"Y gobaith yw bod gan hwn y potensial hefyd i gefnogi gwell presenoldeb," medd y pennaeth Cath Evans
Yn ôl pennaeth Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Cath Evans, maen nhw'n croesawu'r cyhoeddiad.
"Ni'n teimlo bydde' fe'n gam tuag at leihau'r pwysau ariannol ar deuluoedd trwy arbed y gost cinio ysgol pob dydd," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.
Dywedodd, fel ysgol sy'n rhoi addysg i blant o oedrannau 3-19, eu bod "bendant" eisoes yn gweld effaith y polisi gyda disgyblion cynradd.
"Ni'n ymwybodol bod rhieni yn gweld cynnydd yng nghost y diwrnod ysgol pan ma' plentyn yn trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd," meddai, gan ychwanegu bod ymchwil yn dangos bod y gost honno yn dyblu.
'LlÅ·r Dim Llaeth' fydd gweinidog heb laeth i ysgolion am ddim - AS
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Tlodi ar ôl diwedd prydau ysgol am ddim, medd rhieni
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2024
'Plant yn llwglyd ar ôl bwyta cinio ysgol'
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
Esboniodd Ms Evans fod rhieni wedi dod i'r arfer bellach o beidio gorfod talu am ginio yn y cynradd hefyd.
"Felly mae'n gallu bod yn dipyn o sioc pan mae plentyn nhw yn ymuno ym mlwyddyn 7 a'r gost o ginio ysgol yn gallu bod hyd at £80 y mis fesul plentyn."
"Ni'n gwybod bod e'n 'neud gwahaniaeth mawr, mae'n rhywbeth dyw nhw ddim yn gorfod poeni amdano - bod eu plentyn yn gallu cael pryd twym a chytbwys yn ystod y diwrnod ysgol - ac mae'n cael effaith gadarnhaol.
"Y gobaith yw bod gan hwn y potensial hefyd i gefnogi gwell presenoldeb yn enwedig os yw rhieni a disgyblion yn poeni falle bod y gost o ginio ysgol yn rhwystr o ran dod i'r ysgol ac mae'n lleihau'r stigma hefyd o ran prydau cinio ysgol am ddim gyda hwn yn dod yn fwy cyffredin."
Ychwanegodd y pennaeth fod bron i dreian o blant Cymru yn byw mewn tlodi, bod teuluoedd yn wynebu "heriau mawr o ran costau byw".
Mae'n rhaid cofio, meddai, "er bod hwn yn gam positif" y bydd nifer o blant methu manteisio ar y datblygiad hwn ac yn "parhau i fyw mewn tlodi".
'Sgandal ein bod ni yn y sefyllfa'
Roedd Anna Brychan AS yn trafod ar yr un rhaglen ar Radio Cymru fore Gwener a dywedodd hi fod "hwn yn erfyn pwysig iawn" yn ehangder gwaith polisi'r llywodraeth.
"Ry'n ni'n amcangyfrif y bydd 'na 50,000 yn ychwanegol o ddisgyblion nawr yn gymwys i dderbyn prydau bwyd am ddim.
"Mae hwn yn adeiladu ar gytundeb a wnaethpwyd yn flaenorol pan oedd Plaid Cymru yn dal i fod yn wrthblaid i sicrhau bwyd am ddim mewn ysgolion cynradd.
"Mi fydd 'na ryw ddwy ran o dair o ddisgyblion yng Nghymru yn gymwys i dderbyn prydau am ddim o ddod â'r ddau bolisi yma at ei gilydd."
Ychwanegodd Ms Brychan fod "hwn yn gam cyntaf pwysig ac mi fyddwn ni'n parhau i symud ymlaen gyda'r polisi".
"Ond mae e'n rhan o becyn tipyn ehangach yn y maes yma."
"Mae'n sgandal ein bod ni yn y sefyllfa hon ac mae o'n un o'r pethau sy'n gwbl ganolog i waith y llywodraeth yn ei chyfanrwydd gan fod hwn yn uno'r ystadegau sydd yn pwyso arno' ni fwyaf ar hyn o bryd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.