Gŵyl newydd Wrecsam i 'adeiladu ar waddol y Steddfod' a 'chadw'r egni i fynd'

Mae Band Pres Llareggub, Papur Wal, Morgan Elwy a'r Band, Hudol a mwy yn perfformio yn yr ŵyl
- Cyhoeddwyd
Mae gŵyl newydd yn Wrecsam yn gobeithio "adeiladu ar waddol Eisteddfod 2025" gyda "dathliad o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig".
Mae Wrecswyl yn cynnig diwrnod cyfan o adloniant a gweithdai Cymraeg, am ddim, ar draws y ddinas ddydd Sadwrn.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 10:00 a 22:00, gyda digwyddiadau yn Nhŷ Pawb, Llyfrgell Wrecsam a Choleg Cambria.
Ymysg y bandiau a fydd yn perfformio yn yr ŵyl mae Band Pres Llareggub, Papur Wal, Morgan Elwy a'r Band, Hudol, Tara Bandito, ac Andy Hickie.
Dywedodd un o'r trefnwyr, Elen Mai Nefydd, sy'n ddirprwy is-ganghellor dros y Gymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam, mai'r bwriad yw i "gadw'r egni i fynd" wedi i'r brifwyl ddod i'r ddinas y llynedd.

"Mae'n bwysig fod o ddim yn ŵyl i bobl sy'n siarad Cymraeg yn unig," meddai Elen Mai Nefydd
Ychwanegodd Elen, a oedd yn is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Wrecsam 2025, fod yr ŵyl wedi'i sefydlu yn sgil "trafodaethau am waddol Eisteddfod Wrecsam".
"Mae'n bwysig bod y Steddfod wedi dod i Wrecsam a bod hynna wedi cael effaith ar yr ardal, ond wedyn mae angen creu fframwaith hirdymor ar gyfer y ddinas - yn enwedig os ydyn ni'n mynd i fod yn llwyddiannus efo'r cais Dinas Diwylliant," meddai.
"Mae'n ffitio mewn i'r fframwaith diwylliannol yna sy'n digwydd trwy'r Gymraeg yn y ddinas yn sgil yr Eisteddfod ac felly dwi'n obeithiol iawn fydd o'n rhywbeth sy'n digwydd yn flynyddol a bod o'n tyfu.
"Mae'n bwysig fod o ddim yn ŵyl i bobl sy'n siarad Cymraeg yn unig, ond bod o'n agored i bawb, a bod rhywun yn teimlo bod nhw'n gallu bod yn rhan o gig yn y nos, neu sesiwn i blant ar ddiwedd y bore i sesiwn llenyddol yn ystod y prynhawn.
"Y gobaith ydi fydd o'n dod yn rhan naturiol o galendr pobl tu hwnt i Wrecsam hefyd, fel sydd wedi digwydd gyda Focus Wales."
'Sawl catalydd' i'r iaith Gymraeg yn Wrecsam
Mae "sawl catalydd" i'r iaith Gymraeg wedi bod yn Wrecsam yn y blynyddoedd diwethaf, meddai, gyda llwyddiannau'r clwb pêl-droed a'r rhaglen ddogfen wedi helpu ymdrechion y brifysgol a Choleg Cambria.
"Mae pawb yn gweithio dros y Gymraeg yma," meddai Elen Mai.
"Mae'r gymuned leol yn falch o'i hunaniaeth Cymraeg yma, boed o'n golygu bod nhw'n siarad Cymraeg bob dydd, neu'n ei ddefnyddio'n achlysurol.
"Mae yna gefnogaeth tuag at ddigwyddiadau Cymraeg, ac mae'n rhan greiddiol o bwy ydyn ni fel dinas - mae'r dwyieithrwydd yna yn rhan ohonom ni.
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y diddordeb yna a'r defnydd yna o'r iaith yn y blynyddoedd diwethaf."
Mae'r sesiynau i ddysgwyr a siaradwyr newydd yn elfen "bwysig iawn" o'r ŵyl, meddai.
"Mae hynny'n ddiolch mawr i Goleg Cambria a'u tiwtoriaid sydd â chymaint o egni.
"Y gobaith ydi ymestyn hynna ymhellach i'r gymdeithas achos falle bydd rhywun yn dod taro mewn fory, yn mynd i sesiwn ac yn cymryd diddordeb mewn dysgu'r iaith.
"Ni'n gobeithio bod o'n blatfform i ysgogi fwy o ddysgwyr newydd yn y Gymraeg."

Bydd nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yn Nhŷ Pawb fel rhan o'r ŵyl
Dywedodd Elen bod digwyddiadau fel Wrecswyl yn "amhosib heb y cydweithio sydd wedi bod rhwng y partneriaethau dinesig".
Mae'r ŵyl yn ganlyniad i gydweithio rhwng aelodau o bwyllgor gwaith Eisteddfod Wrecsam, Coleg Cambria, Cyngor Wrecsam, Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Tŷ Pawb a Focus Wales, a'r bobl tu ôl i'r cais Dinas Diwylliant 2029, meddai.
"Dio ddim yn gallu digwydd ym mhobman ac mae'n beth sbesial am Wrecsam.
"Mae Coleg Cambria wedi bod yn helpu gyda curadu'r pethau dysgu Cymraeg, mae Prifysgol Wrecsam yn curadu'r stwff llenyddol, Focus Wales wedyn yn curadu'r gigs yn y nos, a'r Fenter wedyn yn curadu'r sesiynau i blant ac i bobl ifanc yn ystod y dydd.
"Felly mae o wir yn bartneriaeth ddinesig sy'n reit unigryw a dwi'n meddwl bod yna neges bwysig yn hyn i'r cais Dinas Diwylliant achos mae'r hyn sy'n digwydd yn Wrecsam ar hyn o bryd yn reit sbesial."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref

- Cyhoeddwyd9 Hydref

- Cyhoeddwyd25 Medi
