Cerdded 120 milltir y mis – yn 92 oed

John Morgan Jôb
Disgrifiad o’r llun,

John Morgan Jôb

GanBryn Jones ac Iwan Arwel
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Pan gafodd John Morgan Jôb neges ar ei oriawr glyfar yn dweud faint oedd o wedi cerdded mewn 12 mis fe gafodd dipyn o sioc.

Oherwydd roedd yn cael ei longyfarch am gerdded pellter oedd gyfystyr â 60 marathon - 1,573 o filltiroedd – fyddai'n destun balchder i unrhywun, ond yn enwedig i rywun yn ei 90au.

"Roeddwn i'n meddwl mae'n rhaid bod mistêc fan hyn a dyma anfon neges i Google a syndod mawr i mi oedd bod e'n wir," meddai.

"Ond efo'r nod [sydd gen i] o gerdded 30 milltir yr wythnos mae'n adio fyny i tua 120 milltir y mis.

"Fuodd yna adeg o'n i'n gwneud mwy ond wrth heneiddio - a nawr mod i'n 92 - dwi'n rhyfeddu ac yn diolch mod i'n medru gwneud hyn o hyd."

Disgrifiad,

Gwylich John Morgan Jôb yn sôn am ei ddiddordeb yn cerdded pob dydd

Ei gyfrinach ydi dal ati a chysondeb, ac felly chwe diwrnod yr wythnos mae'n mynd am dro.

Yn y bore mae ei dal hi yn ôl Mr Jôb, felly am 07:30 fe fydd yn gwisgo'i sach gefn, sy'n cynnwys ei ddillad glaw a photel o ddŵr, ac yn camu allan o'i gartref yn Llanfairpwll, Ynys Môn.

Os nad ydi'r tywydd yn rhy ddrwg fe fydd yn cerdded tua pum milltir tuag at bentrefi cyfagos fel Gaerwen a Brynsiencyn, neu ar hyd y Fenai i Borthaethwy – ac yn ôl gartref erbyn tua 09:30.

Dydy Mr Jôb, a fu'n weinidog am ddegawdau, ddim yn cerdded ar ddydd Sul er mwyn rhoi gorffwys i'w gorff a gwneud yn siŵr ei fod yn y capel erbyn 10:00.

Mae wedi cadw'n heini ar hyd ei oes – o chwarae pêl-droed pan yn fachgen ifanc ym mhentref Pont-iets, Sir Gaerfyrddin, i redeg, beicio a chwarae golff pan yn hŷn.

'Dal ati'

A'i gyngor i unrhywun ydi'r un gafodd o pan wnaeth o ymddeol fel gweinidog yn Abertawe.

"Y noson cyn symud i Sir Fôn i fyw daeth y meddyg teulu, Gwyddel diddorol dros ben, i ddymuno ffarwel," meddai. "Wna i byth anghofio ei gyngor o - peidiwch ar ôl ymddeol eistedd lawr gormod ac edrych ar ormod o'r teledu.

"Yn hytrach, meddai e, ceisiwch yn gyntaf fod yn ffit ac yna yn super ffit.

"Mae cerdded yn gwneud lles i bawb ond mae'n rhaid i chi wneud mwy os ydych chi am brofi'r bendithion sy'n dod ohono.

"Pwyslais arbenigwyr yn y maes yma ydi dal ati."

John Morgan Job yn cerdded
Disgrifiad o’r llun,

'Yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni'

Mae cerdded yn gwneud daioni i'w iechyd corfforol wrth gwrs – ond dywed Mr Jôb ei fod yr un mor yn llesol i'w ysbryd.

Meddai: "Mae'n gwneud i chi deimlo yn well a mwy na hynny yn hapusach. Mae fel cyffur. Bob bore y peth cynta' dwi'n feddwl amdano ydi dechre arni.

"Yr ail fantais ydi'r gwerth cymdeithasol. Er bod fi wedi byw yma cynifer o flynyddoedd dwi wedi dod i adnabod rhai pobl a dod yn ffrindiau efo nhw na fyddwn i byth wedi taro ar eu traws nhw. Mae cael sgwrs efo hwn a llall yn ychwanegu at werth y dydd."

Ac wrth iddo daro gair gyda'i gymdogion ar ei deithiau o gwmpas ei filltir sgwâr, mae'r cyn-bregethwr yn gweld buddiannau tu hwnt i'r rhai iddo'i hun.

Meddai: "Wrth gerdded dwi'n sylweddoli dwi yng nghwmni cerddwyr y canrifoedd, fel enghraifft Paul neu'r Iesu.

"Mae 'na adnod diddorol 'yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni'."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig