'Byth yn meddwl bydden ni'n dau yn cael sylwebu ar gêm Aber!'

Cafodd Emrys a Llew gyfle i sylwebu ar gêm Aberystwyth yn erbyn Met Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn ifanc ag anghenion ychwanegol wedi cael cyfle i "wireddu eu breuddwyd" o sylwebu ar gemau pêl-droed yng Ngheredigion.
Cafodd Llew Taylor ac Emrys Meredith gyfle i roi cynnig ar sylwebu wrth ddilyn gêm Aberystwyth yn erbyn Met Caerdydd, fel rhan o gynllun i roi blas ar fyd darlledu i bobl ifanc lleol.
Dywedodd Llew fod y profiad yn arbennig gan fod pêl-droed yn rhan mor fawr o'i fywyd, gan ychwanegu mai ei "swydd ddelfrydol fyddai cael siarad am y gamp bob dydd!"
Yn ôl Emrys, mae cael y cyfle i sylwebu yn "arbennig iawn" ac yn "gyfle gwych gan nad oes lot o gyfleoedd i bobl anabl yn yr ardal".
'Cyfle i ddefnyddio fy llais'
Mae Emrys a Llew ill dau yn frwd dros bêl-droed, ac roedd y cyfle i sylwebu ar gêm yn gyfle iddyn nhw gyfuno eu diddordeb yn y gamp â rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Yn ôl Emrys, mae gweld pobl ag anableddau yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel hyn yn "arbennig o bwysig".
"Dw i ddim yn credu 'dych chi'n gweld lot o bobl ag anableddau yn sylwebu, yn enwedig yng Ngheredigion.
"Felly mae'n lot fawr o hwyl cael y cyfle yna i ddefnyddio fy llais a bod yn rhan o rywbeth fel hyn. Wir mae'n gwireddu breuddwyd!"

Yn ôl Emrys Meredith, mae'r cyfle i sylwebu yn "gwireddu breuddwyd"
Ychwanegodd Emrys fod y profiad wedi dangos pa mor bwysig yw hi i bobl gael cyfle i roi cynnig ar bethau newydd a datblygu sgiliau mewn meysydd sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
"Yn y byd 'dyn ni'n byw ynddo nawr, mae'n eitha anodd cael cyfleoedd mewn gwaith a phethau fel hynny.
"Felly mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfle i wneud pethau gwahanol a chymryd rhan."
'Mwynhau pob munud o'r profiad'
Mae'r profiad wedi bod yn un gwerthfawr i'r ddau, gyda Llew yn dweud mai gweithio ym maes pêl-droed fyddai ei swydd ddelfrydol.
Mae'n chwarae i dîm Sêr Aber Stars ac yn gwirfoddoli gyda CPD Tal-y-bont, sy'n chwarae yng Nghynghrair Aberystwyth a'r Dyffryn.

Mae Llew Taylor yn chwarae i dîm Sêr Aber Stars
"Hon fyddai'n swydd ddelfrydol - cael siarad am bêl-droed bob dydd," meddai Llew.
"Mae'n bwysig i unrhywun sydd â diddordeb gael y cyfle ond fel arfer does dim cymaint o siawns i bobl gyda anableddau.
"Rwy'n ddiolchgar i Ammie fy mentor gwaith am drefnu a Rhodri am y cyfle. Mae e'n gwneud y profiad yn un da. Diolch!"

Mae Llew Taylor yn dweud mai ei "swydd ddelfrydol" fyddai cael siarad am bêl-droed bob dydd
I Emrys, mae'r profiad wedi bod yn gyfle i ddatblygu ei hyder yn ogystal â rhoi blas ar fyd sylwebaeth.
"Mae'n lot fawr o hwyl. Mae'n rhoi cyfle i fi ddod mas o'r tŷ, mynd i wylio gêm bob hyn a hyn a chael bach o hwyl gyda sylwebu.
"Dw i wedi mwynhau pob munud o'r profiad yn fawr iawn."
Hyd yma, mae wedi cael cyfle i sylwebu ar ddwy gêm, ac mae'n dweud bod ei hyder wedi cynyddu ers y tro cyntaf.
"Dim ond dwywaith dw i wedi gwneud o hyd yma. Y tro cyntaf, o'n i'n hollol nerfus, ond erbyn yr ail waith o'n i gyda bach mwy o hyder, dw i'n meddwl.
"Mae'n brofiad gwahanol bob tro, ond dw i wedi mwynhau'r ddau gyfle."

Dywed Emrys Meredith nad oes "lot o gyfleoedd i bobl anabl yn yr ardal"
Mae Emrys hefyd yn gobeithio y bydd y profiad yn arwain at gyfleoedd eraill yn y dyfodol.
"Os ddeith cyfle, 'swn i wrth fy modd yn gohebu," meddai.
Mae pêl-droed wedi bod yn ddiddordeb mawr i Emrys ers blynyddoedd.
"Dw i'n hoffi pêl-droed yn fawr iawn. Dw i'n cefnogi tri thîm gwahanol - Aberystwyth wrth gwrs, Manchester United weithiau, a Chaerdydd, oherwydd o'n i'n arfer byw yng Nghaerdydd."
'Cyfle i bawb gael blas ar ddarlledu'
Mae'r cynllun wedi'i sefydlu gan Fenter Iaith Ceredigion ar y cyd â gorsaf radio gymunedol Cymru Sport i roi cyfle i bobl ifanc gael profiad ymarferol o sylwebu a darlledu.
Yn ôl Steffan Rees, arweinydd tîm Cered Menter Iaith Ceredigion, daeth y syniad ar ôl sylweddoli bod llawer o bobl ifanc am ddilyn gyrfa yn y cyfryngau, ond bod cyfleoedd lleol yn gyfyngedig.

Yn ôl Steffan Rees, mae'n bwysig sicrhau bod cyfleoedd fel hyn yn hygyrch i bawb
"Roedden ni'n ymwybodol bod llawer o bobl ifanc eisiau symud o Geredigion a dilyn gyrfa ym maes gohebu a'r cyfryngau, felly roedden ni eisiau creu cyfle iddyn nhw gael blas ar fyd darlledu heb orfod gadael yr ardal," meddai.
Dechreuodd y cynllun drwy sylwebu ar gemau Clwb Pêl-droed Aberystwyth, ond mae wedi ehangu dros y blynyddoedd i gynnwys clybiau eraill ledled y sir.
Dywedodd Mr Rees fod gweld ystod eang o bobl ifanc yn manteisio ar y cyfle wedi bod yn un o lwyddiannau mwyaf y prosiect.
"Mae wedi bod yn braf gweld pobl ifanc o ysgolion uwchradd lleol yn dod atom ni ac eisiau rhoi cynnig arni.
"Mae rhai ohonyn nhw efallai ddim yn clywed llawer o Gymraeg gartref nac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg eraill yn y gymuned, ond maen nhw'n frwd iawn dros ddod i sylwebu ar gemau pêl-droed lleol."
Dywedodd ei bod yn bwysig bod y cyfleoedd yn agored i bawb.
"Rydyn ni wastad yn trio creu cyfleoedd sy'n hygyrch i bawb fel Menter Iaith.
"Mae'n wych gweld Emrys a Llew yn cymryd rhan yn y prosiect gyda'i gilydd, a'n bod ni'n gallu cynnig cyfle fel hyn i bobl ag anableddau hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.