Llywodraeth Cymru ddim am barhau i gefnogi cynllun plannu coed Uganda

Mae mwy na 25 miliwn o goed wedi cael eu plannu o dan y cynllun
- Cyhoeddwyd
Mae elusen newid hinsawdd o Gymru yn mynd i golli ei chyllid gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf ar gyfer eu cynllun plannu coed yn Uganda.
Dywedodd gweinidogion fod pwysau ar y gyllideb yn golygu bod angen gwneud "penderfyniadau anodd", ac y bydd grant Maint Cymru, dolen allanol ar gyfer y gwaith yma yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.
Mae pleidiau asgell dde yn y Senedd wedi croesawu'r penderfyniad.
Ond, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhuddo gweinidogion Plaid Cymru o fod "yn fwy Reform na Reform".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "datblygu strategaeth ryngwladol newydd i Gymru"
Mae Maint Cymru'n gweithio gyda phobl frodorol a chymunedau lleol ledled y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwig law drofannol, sef ardal sydd yr un maint â Chymru.
Ers 2015 mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy na £4 miliwn i'r elusen ar gyfer ei rhaglen plannu coed yn Uganda.
Mae'r swm hynny'n cynnwys £350,000 yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud bod ei chyllid ar gyfer y prosiect tua £270,000 y flwyddyn, dolen allanol, sy'n cyfateb i 0.001% o'i chyllideb flynyddol gyfan.
Fodd bynnag, wrth i weinyddiaeth Plaid Cymru baratoi i gyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 yn ddiweddarach y mis yma, mae gweinidogion wedi cadarnhau y bydd cyllid ar gyfer y cynllun plannu coed yn Uganda yn cael ei dorri.
'Nid yw hynny'n farn ar ansawdd y gwaith'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "datblygu strategaeth ryngwladol newydd i Gymru" ac yn "gweithio i sicrhau bod buddsoddiad yn y dyfodol yn dangos effaith a gwerth am arian ac yn darparu manteision clir i Gymru yn ogystal â'n partneriaid rhyngwladol".
"Nid ydym yn bwriadu adnewyddu'r grant ar gyfer rhaglen plannu coed Mbale Maint Cymru y tu hwnt i'w dyddiad gorffen presennol ar 31 Mawrth 2027.
"Nid yw hynny'n farn ar ansawdd y gwaith. Mae'r rhaglen wedi plannu miliynau o goed ac wedi adeiladu cysylltiadau pwysig rhwng Cymru ac Uganda, ac edrychwn ymlaen at barhau â'n deialog gyda Maint Cymru".
"Nid yw cydnabod llwyddiant rhaglen yr un peth ag ymrwymo i ariannu'r un fodel cyflawni am gyfnod amhenodol.
"Mae'n rhaid i lywodraeth wneud penderfyniadau anodd ynghylch ble y gall adnoddau cyfyngedig gael yr effaith fwyaf a sut y dylai ein gweithgarwch rhyngwladol esblygu.
"Byddwn ni byth yn cilio oddi wrth y weledigaeth o Gymru fel cenedl gyfrifol sy'n edrych tuag allan i'r byd."
Cynllun plannu coed yn 'angenrheidiol' - Drakeford
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
'Angen hyblygrwydd' yng nghynllun coed llywodraeth
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023
£32m i ffermwyr er mwyn plannu 86 miliwn o goed
- Cyhoeddwyd2 Medi 2022
Mae'r cynllun plannu coed yn Uganda wedi cael ei feirniadu ers tro gan wleidyddion Reform UK a'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
Gan groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Helen Jenner, fod ei phlaid wedi bod yn galw "am roi diwedd ar y gwariant woke yma ers blynyddoedd".
"Ni sydd wedi newid y sgwrs ym Mae Caerdydd ac wedi mynnu bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wario yng Nghymru a ddim yn cael ei anfon dramor ar gyfer pethau fel coed Ugandaidd," meddai.
"Nawr, diolch i ni, ni fydd aelwydydd Cymru yn ariannu'r coed hynny."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar, fod y penderfyniad yn "hir-ddisgwyliedig ond gwell hwyr na hwyrach".
"Mae'n warthus bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwario cymaint o arian trethdalwyr ar blannu coed yn Affrica tra bod ein hysgolion a'n hysbytai wedi bod yn mynd heb yr arian sydd ei angen arnynt," meddai.
"Does ganddi ddim cyfrifoldeb am faterion tramor na datblygu rhyngwladol, felly mae pob punt a gaiff ei wario ar bethau fel hyn yn bunt sy'n cael ei chymryd oddi wrth y GIG, ein system addysg a helpu economi Cymru.
"Dylai Llywodraeth Cymru roi pobl Cymru yn gyntaf, nid prosiectau hunan-fawr dramor."
Fodd bynnag, disgrifiodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, y penderfyniad fel un "byr ei olwg".
"Nid yw mynd i'r afael â newid hinsawdd a diogelu natur yn foethusrwydd," meddai.
"Mae Maint Cymru wedi plannu miliynau o goed, adeiladu cysylltiadau go iawn rhwng Cymru ac Uganda, a helpu cymunedau i ddiogelu coedwigoedd sy'n bwysig i bob un ohonom.
"Mae Plaid yn mynd ymhellach na Reform ei hun drwy dorri cyllid rhyngwladol ar gyfer gwaith y mae gweinidogion yn cyfaddef sydd wedi bod yn llwyddiant.
"Ni ddylai cyfrifoldeb byd-eang Cymru fod y peth cyntaf i gael ei dorri."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.