Cyfarwyddwr y Cenhedloedd 'erioed wedi gweld sefyllfa mor ddifrifol' i'r BBC

Rhuanedd Richards
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rhuanedd Richards, mae'r sefyllfa yn "heriol iawn" ar hyn o bryd gyda'r BBC "dan bwysau ariannol gwirioneddol"

GanIfan Ywain
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfarwyddwr y Cenhedloedd newydd y BBC yn dweud ei bod hi "erioed wedi gweld sefyllfa mor ddifrifol i'r gorfforaeth".

Daeth cadarnhad yn gynharach yr wythnos hon fod Ms Richards wedi cael ei phenodi yn dilyn cyfnod o gyflawni'r rôl dros dro.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, fe bwysleisiodd nad oedd hi'n anochel y bydd mwy o doriadau i'r BBC "pe bai trefniant cynaliadwy ar gyfer cyllido'r gorfforaeth".

Mynnodd hefyd nad ydy'r gwasanaethau Cymraeg "yn cael eu taro yn waeth" gan doriadau diweddar y BBC o'i gymharu â gwasanaethau Saesneg.

Fel rhan o'i swydd newydd, bydd Ms Richards yn gyfrifol am weithrediadau'r BBC yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â gwasanaethau lleol y BBC yn Lloegr.

Bydd hi hefyd yn ymuno â Phwyllgor Gweithredol y BBC.

Esboniodd mai ei phrif gyfrifoldeb yw "sicrhau bod y BBC yn gwasanaethu ac yn adlewyrchu pob un o'n cenhedloedd datganoledig ni ar yr ynysoedd hyn, ynghyd a holl ranbarthau Lloegr".

"Does dim byd mwy sylfaenol i'r BBC na bod cynulleidfaoedd a'r rhai sy'n talu'r ffi drwydded, ble bynnag maen nhw'n byw, yn teimlo fod y BBC yn cynnig rhywbeth iddyn nhw," meddai.

Ond mae sawl un, gan gynnwys y prif weinidog, Rhun ap Iorwerth, y Gweinidog Diwylliant, Heledd Fychan a chyn-Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones wedi mynegi pryder am effaith y sefyllfa ariannol ar Gymru yn benodol.

Meicroffon BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dros Ginio, Dros Frecwast dydd Sadwrn ac Ar y Marc ymhlith y rhaglenni fydd yn diflannu yn sgil toriadau'r BBC

Aeth Ms Richards yn ei blaen i egluro pa mor heriol ydi sefyllfa ariannol y gorfforaeth ar hyn o bryd, gan bwysleisio ei fod yn effeithio ar "bob un rhan o'r BBC".

"Mae'n heriol dros ben a s'dim pwynt i fi eistedd yma a honni fel arall," meddai.

"Mae'r BBC dan bwysau ariannol gwirioneddol, a dwi erioed wedi gweld sefyllfa mor ddifrifol i'r gorfforaeth, a hynny ar ôl degawd o doriadau sydd eisoes wedi bod mewn termau real.

"Er ein bod ni'n (Cymru) wynebu llai o doriadau na nifer o adrannau eraill yn y BBC, mae swyddi'n cau a rhaglenni a gwasanaethau yn mynd."

Ychwanegodd fod rhagor o doriadau yn edrych yn debygol gyda'r sefyllfa fel mae hi ar hyn o bryd: "Yn anffodus, mae hynny'n anochel ac os na fydd sefyllfa cyllido'r BBC yn newid - go brin mai fel hyn fydd hi am flynyddoedd i ddod."

Gwasanaethau Cymraeg 'ddim yn cael eu taro'n waeth'

Mae Cymdeithas yr Iaith ymhlith y rhai sydd wedi mynegi pryder am effaith toriadau'r BBC ar y Gymraeg ond mae Ms Richards yn mynnu ei bod yn gweithio i sicrhau fod y Gymraeg yn ganolog i ddyfodol y gorfforaeth.

"Mae rhywbeth unigryw am gyfrifoldeb y BBC at y Gymraeg, achos os ydyn ni'n colli rhywbeth dydy'r gynulleidfa ddim o reidrwydd yn gallu mynd at rywle arall i gael yr un gwasanaeth yn y Gymraeg.

"Ond hefyd, rydw i'n pryderu am y ddarpariaeth Saesneg yng Nghymru, does 'na unman arall i gynulleidfaoedd radio Saesneg fynd i glywed newyddion o Gymru chwaith.

"Felly dwi'n cymryd fy nghyfrifoldeb o wasanaethu pawb yng Nghymru o ddifrif ac mae Radio Wales a Radio Cymru yn chwarae rhan bwysig iawn yn hynny o beth."

Ychwanegodd: "Gaf i 'weud yn gwbl glir, dydy'r gwasanaethau Cymraeg ddim yn cael eu taro yn waeth, ac a dweud y gwir mae'n hadran ni wedi diogelu rhywfaint o gymharu â nifer o adrannau eraill yn y BBC.

"...Dwi'n Gymraes Cymraeg, mae'r iaith yn rhan greiddiol a phwysig ohonof i ac wrth gwrs fyddai'n brwydro drosti tra bod anadl yn fy nghorff.

"O'dd Radio Cymru yn gyfrifol am agor fy llygaid i i ddiwylliant yn y Gymraeg, a finnau'n dod o deulu di-gymraeg felly dwi'n deall pa mor bwysig yw hyn."

Dyfodol canolfannau'r BBC y tu hwnt i Gaerdydd

Wrth ymateb i gwestiwn am y posibilrwydd o ragor o doriadau yn y dyfodol, pwysleisiodd bwysigrwydd parhau i gynrychioli pob rhan o Gymru.

"Fel Cyfarwyddwr BBC Cymru fi wedi treulio tipyn o amser yn ymgyrchu dros gael mwy o swyddi a mwy o wasanaethau yn symud o Lundain i Gymru, felly nid fi fydd yn gwneud yr achos dros ganoli gwasanaethau yng Nghaerdydd.

"Ma' pob trafodaeth yn anochel, ond dwi'n gwbl grediniol y bydd presenoldeb y BBC yn parhau ledled Cymru. Mae'n rhan o'n cenhadaeth ni.

"Ma' rhaid i ni gynrychioli pob rhan o Gymru, bob cwr o Gymru a bob cymuned.

"Falle bydd yr adeiladau'n newid dros y blynyddoedd, pwy a ŵyr, ond yr hyn alla i ddweud yw bod ein hymrwymiad ni i wasanaethau'r gogledd, y gorllewin a'r dwyrain cymaint ag yw hi i wasanaethu cynulleidfaoedd y de."

Ychwanegodd: "Dyw'r sefyllfa ddim yn anochel, mi ellir gwneud rhywbeth am y sefyllfa yma, dim ond i ni gael sicrwydd a threfniant cynaliadwy ar gyfer cyllido'r BBC yn y dyfodol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.