Y 'pentrefi diolchgar' lle daeth pob un llanc adref yn ddiogel

Plac
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd placiau eu rhoi i'r dros 50 o Bentrefi Diolchgar yng Nghymru a Lloegr yn 2014, i nodi canrif ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf

GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

O'r 280,000 o ddynion Cymru a wasanaethodd yn y lluoedd arfog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf collodd 40,000 ohonynt eu bywydau. Prin nad oedd pentref neu dref heb ei effeithio gan ddinistr y gwrthdaro.

Serch hynny, ledled Cymru a Lloegr, llwyddodd dros hanner cant o blwyfi i oroesi'r rhyfel a hynny heb golli unrhyw breswylwyr o'i achos. Bathwyd y term 'Pentrefi Diolchgar' (Thankful Villages) i ddisgrifio'r cymunedau unigryw hyn. Mae'n debyg nad oes unrhyw 'Bentrefi Diolchgar' yn yr Alban nac yn Iwerddon a dim ond un yn Ffrainc.

Yma yng Nghymru mae tri: Herbrandston yn Sir Benfro, Llanfihangel-y-creuddyn yng Ngheredigion, a Thregolwyn ym Mro Morgannwg.

I nodi Sul y Cofio, yr hanesydd Elin Tomos sy'n bwrw golwg ar brofiadau rhai o drigolion Pentrefi Diolchgar Cymru yn ystod y Rhyfeloedd Byd.

GanElin Tomos
Hanesydd

Tregolwyn, Bro Morgannwg

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd 23 o ddynion a bechgyn o Dregolwyn â'r lluoedd arfog. Trwy ryw wyrth llwyddodd pob un ohonynt i ddychwelyd adref.

Yn eu plith roedd y brodyr Arthur: John Windsor, William David, ac Arthur Wyndham. Ymunodd y tri â'r Corfflu Gynnau Peiriant (Machine Gun Corps) – cangen o'r fyddin enillodd y llysenw 'The Suicide Club' o ganlyniad i'r nifer syfrdanol o uchel o aelodau gollodd eu bywydau.

Serch hynny, llwyddodd y brodyr, ill tri, i oroesi'r rhyfel a dod adref.

MilwyrFfynhonnell y llun, Lt Spender / Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Criw o filwyr o Gyffinwyr De Cymru yn 1942 - bu farw Leonard Charles Pugh o Dregolwyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Yn anffodus, yn ystod yr Ail Ryfel Byd collodd pedwar o filwyr Tregolwyn eu bywydau. Yn eu mysg oedd Leonard Charles Pugh, preifat gyda Chyffinwyr De Cymru a fu'n gwasanaethu yn yr Aifft a Libia. Bu farw ar 3 Medi 1942 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Ryfel Tripoli.

Herbrandston, Sir Benfro

Yn wahanol i Dregolwyn mae pentref Herbrandston yn cael ei ystyried fel pentref diolchgar dros ben, neu 'doubly thankful', gan na phrofwyd unrhyw brofedigaeth yn y ddau ryfel byd.

Un a wasanaethodd yn y ddau ryfel oedd George Leonard Hughes, mab i'r Parchedig George Henry Hughes – Rheithor Eglwys y Santes Fair yn Herbrandston – a'i wraig, Edith.

Yn ystod y Rhyfel Mawr bu George yn gwasanaethu fel Swyddog gyda Magnelwyr y Gwarchodlu Brenhinol (Royal Garrison Artillery) yn Ffrainc a Fflandrys. Am ei ddewrder a'i ymroddiad eithriadol yn ystod y gwrthdaro, dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo'n 1919.

Llun gynnau mawr mewn rhyfelFfynhonnell y llun, John Warwick Brooke
Disgrifiad o’r llun,

Magnelwyr y Gwarchodlu Brenhinol yn ystod Brwydr y Somme yn 1916 - daeth un o'r aelodau, George Leonard Hughes, adref yn ôl i Sir Benfro ar ôl y rhyfel

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, arweiniodd George – a oedd bellach yn Is-Gyrnol – y 22ain Gatrawd Magnelwyr Mynydd yn Ne-ddwyrain Asia.

Yn dilyn cwymp Singapôr yn 1942 treuliodd George dros ddwy flynedd fel carcharor rhyfel yng ngharchar drwg-enwog Changi.

Adeiladwyd y carchar yn yr 1930au ar gyfer oddeutu 3,000 o garcharorion, ond pan feddiannwyd y safle gan luoedd Japan gwasgwyd dros 50,000 o garcharorion rhyfel yno. Unwaith eto llwyddodd George i oroesi gan ddychwelyd i Sir Benfro wedi'r rhyfel.

carcharorionFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r carcharorion ar ôl i Garchar Changi gael ei ryddhau yn 1945 - goroesodd George Leonard Hughes gyfnod yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Un arall o Herbrandston a oroesodd y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Thomas Warlow. Er iddo lwyddo i ddychwelyd i Sir Benfro yn fyw, dioddefodd ef a'i deulu'r torcalon o golli plentyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan laddwyd eu mab, Thomas George John Warlow, ar fwrdd HMT Almond ar 2 Chwefror 1941 ger Falmouth.

Pan fu farw'r mab roedd y teulu bellach yn byw yn Tiers Cross – pentref cwta pedair milltir o Herbrandston – sy'n esbonio pam bod Herbrandston yn parhau i gael ei ystyried yn Bentref Diolchgar.

Llanfihangel-y-creuddyn, Ceredigion

Mae peth amwysedd am safle Llanfihangel-y-creuddyn fel 'Pentref Diolchgar.' Er na laddwyd yr un dyn a oedd yn byw yn yr ardal yn ystod y Rhyfeloedd Byd, lladdwyd rhai dynion a oedd â chysylltiadau cryf â'r plwyf yn ystod yr ymrafael.

Yn eu plith oedd Preifat David Samuel Roberts, brodor o blwyf Llanfihangel-y-creuddyn a symudodd gyda'i deulu i Crosshands yn 1917 lle ymrestrodd â'r fyddin.

Lladdwyd David yn ardal y Somme ar 4 Medi 1918 yn 27 mlwydd oed. Mae wedi'i goffáu ar sawl cofeb: Y Gors (sydd ryw dair milltir o Lanfihangel-y-creuddyn), Cilcennin a Nantgaredig.

Er bod Pentrefi Diolchgar Cymru wedi osgoi colledion yn y Rhyfeloedd Byd nid oeddent wedi'u diogelu rhag holl effeithiau dinistriol rhyfel. O boen meddwl y teuluoedd i'r profiadau ysgytiol a wynebodd y rhai a ddychwelodd adref, effeithiodd y gwrthdaro ar y cymunedau hyn mewn sawl ffordd.

Mae hanesion Pentrefi Diolchgar yn ein hatgoffa nad yw goroesi rhyfel yn golygu dianc yn llwyr o'i afael.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb