Newid rheolau glanhau Airbnb 'am roi mwy o straen' ar berchnogion

Gavin Rowlands a'i wraig KellyFfynhonnell y llun, Gavin Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin Rowlands a'i wraig Kelly yn poeni y gallai'r rheolau newydd arwain at ddirwyiad yn ymddygiad rhai gwestai

  • Cyhoeddwyd

Bydd rheolau newydd gan wefan Airbnb yn rhoi "mwy o straen" ar berchnogion, yn ôl un sy'n gosod llety gwyliau drwy'r cwmni.

Dan y rheolau newydd ni fydd gan berchnogion llety hawl i ofyn i westai wneud tasgau y byddai glanhawyr fel arfer yn eu gwneud, fel golchi llestri neu fynd â sbwriel o'r safle.

Yn ôl Gavin Rowlands, 37, sy'n berchen ar eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot gyda'i wraig Kelly, byddai'r rheolau yn "bendant" yn taro Cymru yn galetach oherwydd rheolau treth.

Dywedodd Airbnb fod y newidiadau wedi eu cyflwyno i "helpu gwestai ddeall beth yw disgwyliadau perchnogion".

Ers 2023, mae'n rhaid i leoliadau hunanarlwyo fod ar gael am 252 diwrnod a'u rhentu am 182 o ddiwrnodau bob blwyddyn, dros sawl blwyddyn, er mwyn cael talu trethu annomestig yn lle'r dreth gyngor uwch.

Ar draws y ffin, yn Lloegr, mae'n rhaid i eiddo hunanarlwyo fod ar gael i'w osod am o leiaf 140 o ddiwrnodau'r flwyddyn - a'u rhenti am 70 o ddiwrnodau.

Er eu bod yn "brysur drwy'r amser", mae Mr Rowlands yn dweud nad ydyn nhw wedi gallu cyrraedd y trothwy.

"Y caletaf 'dan ni'n weithio, yr annoddaf ydi pethau... Mae'n rhaid i ni gynyddu niferoedd [y gwestai] i helpu dalu'r biliau," meddai.

Cegin llety Gavin RowlandsFfynhonnell y llun, Gavin Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa yng nghegin llety gwyliau Gavin Rowlands ar ôl i westai beidio â glanhau

Mae rheolau newydd Airbnb, fydd yn dod i rym o 20 Tachwedd, yn golygu y bydd perchnogion yn gallu gosod saith rheol sylfaenol yn ogystal â rhai "ceisiadau rhesymol".

Ond, fel rhan o'r newidiadau, bydd unrhyw westai sy'n talu ffi glanhau methu cael cais i wneud tasgau y byddai'n cael eu gwneud gan lanhawr.

'Pethau ond am fynd yn waeth'

Dywedodd Mr Rowlands ei fod o a'i wraig wedi eu gadael yn gegrwth ar ôl i westai adael sbwriel a llestri budr ar hyd y llety yn ddiweddar.

"Dim digwyddiad unigol oedd hwn... a dyw pethau ond am fynd yn waeth. Mae wir yn tristau rhywun," meddai.

Er ei bryderon am y newidiadau, dydy Gavin Rowlands ddim yn bwriadu gadael Airbnb am y tro.

Ond mae Guy Allen ac Emma Enticott, 63 a 52 oed, sydd yn berchen llety gwyliau yn Y Mwmbwls, Abertawe, wedi penderfynu tynnu'r eiddo o'r wefan unwaith y daw'r rheolau newydd i rym.

"Mae'n hurt... mae'n rhoi rhwydd hynt i'r rhai sydd ddim am barchu'r llety i wneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud," meddai Ms Enticott.

"Mae angen dangos parch i'r glanhawyr hefyd, dylen nhw ddim gorfod dod mewn a delio gyda llanast pobl eraill."

Ychwanegodd y bydden nhw'n ail-ymuno â'r wefan petai'r polisi yn cael ei newid.

Guy Allen ac Emma EnticottFfynhonnell y llun, Emma Enticott
Disgrifiad o’r llun,

Mae Guy Allen ac Emma Enticott wedi penderfynu tynnu eu llety gwyliau nhw o wefan Airbnb yn sgil y newidiadau polisi

Ond mae Matt Porsz, sy'n berchen ar ac yn rheoli lletyau gwyliau ar Airbnb yn llawn amser, yn dweud nad yw'r newidiadau yn ei boeni.

Mae'n credu y gallai arwain at wella profiadau gwestai heb newid y ffordd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymddwyn.

"Mae rhai pobl weithiau yn tynnu'r dillad gwely neu'n gwneud pethau heb i mi ofyn, ac wrth gwrs mae hynny'n neis i'r glanhawyr, ond dydw i ddim yn disgwyl hynny," meddai.

Yn ôl Jamie-Lee Presley, 37 o Lannon yn Sir Gaerfyrddin, sy'n berchen ar gwmni glanhau sy'n arbenigo mewn delio â llety gwyliau, fe allai'r newid "agor y drws i westai fod yn anystyriol".

"Dwi'n meddwl ei fod e'n hurt. Fe fydd y gwestai parchus sy'n ymddwyn fel y disgwyl yn parhau i wneud hynny, ond nid nhw yw'r broblem," meddai.

"Y broblem yw'r rhai hynny sydd ddim yn parchu eiddo pobl eraill."

Ychwanegodd fod gorfod glanhau llety ar frys eisoes yn her, ac y gallai llanast ychwanegol roi mwy o straen ar lanhawyr.

Rheolau wedi bod yn 'ddryslyd ac yn llym'

Dywedodd Airbnb: "Mae rheolau llety yn helpu gwestai ddeall yr hyn y mae perchnogion yn ei ddisgwyl, ond ry'n ni wedi clywed gan ein defnyddwyr fod y rheolau hynny yn aml yn gallu bod yn ddryslyd, yn llym ac yn anodd eu rheoli.

"Felly, ry'n ni wedi ail-ddylunio'r rheolau i'w gwneud nhw'n haws i'w darganfod ac yn gliriach i'w gosod - ynghyd â pholisi sy'n cadw ceisiadau yn rhesymol."

Cafodd ymgynghoriad ei lansio ym mis Gorffennaf gan Lywodraeth Cymru i ystyried a yw'r trothwy 182 diwrnod wedi ei osod ar y lefel cywir, a'r effaith y byddai gostyngiad posib yn ei gael.

Wrth ymateb i gais am sylw ar y trothwy cyfraddau busnes 182 diwrnod, cyfeiriodd y llywodraeth at ymateb blaenorol gan y Gweinidog Cyllid, Elin Jones.

"Rydw i wedi clywed gan gynrychiolwyr o nifer o wahanol fusnesau sydd yn gwneud cyfraniadau gwirionedd i'w heconomïau lleol ond sydd methu a chyrraedd y trothwy presennol.

"Fe fydd yr ymgynghoriad yma yn helpu ni ddod o hyd i ddatrysiad sy'n gweithio'n well i bawb, gan gynnwys busnesau, awdurdodau lleol a chymunedau lleol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.