Digwyddiadau a chyfnod o dawelwch ar draws Cymru ar Sul y Cofio

Rhes o groesau gyda'r pabi coch ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd yn agored am bythefnos dros gyfnod y cofio

  • Cyhoeddwyd

A hithau'n Sul y Cofio bydd cymunedau ledled Cymru yn cynnal digwyddiadau i anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd, gyda gwasanaeth coffa cenedlaethol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.

Bydd aelodau o'r fyddin yn ymgynnull ger Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays lle bydd torchau yn cael eu gosod.

Bydd nifer o ddigwyddiadau coffa eraill, gan gynnwys yng Ngwynedd, Wrecsam, Powys ac Abertawe.

Yn Aberystwyth, bydd seremoni i osod torchau o'r pabi gwyn a chanu caneuon dros heddwch.

'Anrhydeddu dewrder, gwasanaeth ac aberth'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Rydym yn cofio pawb a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ac yn cydnabod y milwyr a'r menywod sy'n gwasanaethu dramor heddiw - y peryglon maent yn eu hwynebu, a'r gofynion a roddir arnyn nhw a'u teuluoedd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y bydd y cofio yn "anrhydeddu dewrder, gwasanaeth ac aberth ein Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr y mae dyled enfawr o ddiolchgarwch gennym iddynt".

"Ar adeg o ansefydlogrwydd byd-eang parhaus, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ein gilydd i gofio a chynnig ein cefnogaeth gadarn i gymuned gyfan y Lluoedd Arfog a chynyddu ein hymrwymiad i fyd mwy heddychlon."

Pabi GwynFfynhonnell y llun, Peace Pledge Union
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y pabi gwyn yn cael ei osod mewn seremoni yn Aberystwyth

Cafodd Maes Coffa Cenedlaethol Cymru ei agor gyda seremoni yng Ngastell Caerdydd ddydd Mercher 4 Tachwedd.

Mae pum mil o deyrngedau wedi eu gosod yno, gyda chyfle i'r cyhoedd ychwanegu teyrngedau tan 17 Tachwedd.

Bydd y digwyddiadau yng Nghaerdydd ddydd Sul yn dechrau gyda cherddoriaeth gan fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna.

Am 10:40 bydd cynrychiolaeth o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin, Llu Awyr Brenhinol, a'r Cadetiaid yn cyrraedd.

Bydd y gwasanaeth yn dechrau ychydig cyn 11:00, gan agor gyda geiriau gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk BEM, Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd.

Bydd biwglwr yn seinio'r 'Caniad Olaf' am 10:59 cyn cyfarchiad gwn gan Gatrawd 104 Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd, fydd yn nodi dechrau cyfnod o ddau funud o dawelwch.

Bydd y cyfnod o ddistawrwydd yn dod i ben gydag ail gyfarchiad gwn, ac yna bydd y Reveille yn cael ei chwarae.

Yn Abertawe bydd gwasanaeth coffa yn dechrau ger y Senotaff am 10:30 gyda gorymdaith drwy'r ddinas yn dechrau am 13:30 a Gwasanaeth Cofio yn y Gadeirlan am 14:30.

Ym Mhowys, bydd gwasanaethau mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Y Drenewydd, Machynlleth a Llanfair-ym-Muallt.

Bydd y gwasanaeth cofio blynyddol yn Wrecsam yn dechrau am 10:55 ym Modhyfryd.

Hefyd yng ngogledd Cymru bydd gorymdaith yng Nghonwy yn dilyn gwasanaeth am 10:45 ger y Senotaff ym Modlondeb.

Mae Ras Goffa yn cael ei chynnal ar Drac Môn yn ystod y penwythnos, gan gyfuno chwaraeon moduro gyda chofio am y rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfel - bydd y ras yn cael ei hatal am gyfnod ar gyfer gwasanaeth coffa ddydd Sul.

Rhes o groesau gyda'r pabi coch ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhes o groesau gyda'r pabi coch ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru dywedodd y cyn-Uwch Gaplan yn y lluoedd arfog, y Parchedig Aled Huw Thomas bod Sul y Cofio mor bwysig ag erioed.

"Ma'n cymdeithas ni a'n cymunedau ni'n gynyddol rhanedig ac ychydig iawn o bethe neu achlysuron sy'n gallu uno cymdeithas a chymunedau, a dwi'n credu bod y defodau cofio yn uno ein cymdeithasau ni.

"Ond wrth bod hanes yn mynd heibio, a wrth bod bywyd yn mynd yn ei flaen, ma' gennych chi bethe mwy diweddar, ma' Efrog Newydd 9/11, ma' Llundain 7/7, ma'r seithfed o Hydref yn Israel, yr holl erchyllderau hynny hynny yn gymaint o ddylanwad ar bobl yn ein cyfnod ni."

'Angen buddsoddi mewn heddwch'

Dywedodd Anna Jane Evans o Gymdeithas y Cymod wrth raglen Bwrw Golwg bod angen canolbwyntio mwy ar heddwch.

"Dwi'n cofio efo coblyn o lot o edifeirwch a thristwch dychrynllyd ynglŷn â'r holl gyflafanau yma - 'dan ni gyd yn 'nabod bobl sy' wedi cael eu hanfon allan ac wedi cael eu colli.

"Mae gynnon ni gymdogion, pobl yn ein cymunedau ni dan ni'n gwybod sy wedi cael eu colli.

"Ond mae o'n erchyll o beth yn dydi bod ein llywodraethau ni'n dal i wario.

"Dan ni wedi gwario mwy yn y flwyddyn ddiwetha fel byd ar be 'dan ni'n alw'n amddiffyn. Dan ni'm yn buddsoddi affliw o ddim bellach mewn heddwch."

Wrth ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Amddiffyn y DU ym mis Mehefin oherwydd dadlau ynglŷn â'r gwariant ar amddiffyn, dywedodd John Healey, sydd bellach yn Ganghellor bod y gofynion ar amddiffyn wedi cynyddu oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ac ymrwymiadau newydd gan y DU yn yr Arctig ac Wcráin.

Bydd rhagor o goffáu yn digwydd ar 11 Tachwedd - Dydd y Cadoediad, pan fydd dau funud o dawelwch am 11:00.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.