Ydy chwaraewyr yn gadael Cymru o fudd i'r tîm rygbi cenedlaethol?

Lake, Morgan a WainwrightFfynhonnell y llun, Getty Images
GanCennydd Davies
Prif Sylwebydd Rygbi BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gyda gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn ailddechrau ar 7 Tachwedd, Japan fydd y cyntaf i wynebu gŵyr Steve Tandy yng Nghaerdydd.

Yn dilyn y gêm yna bydd ymweliadau gan Seland Newydd ac Awstralia, gyda gêm yn erbyn gwrthwynebwyr sydd eto i'w benderfynu yn gorffen y gystadleuaeth ar 27-29 Tachwedd.

Cennydd Davies sy'n edrych ymlaen at y gemau, gan ganolbwyntio ar y chwaraewyr sy'n ennill eu bywoliaeth tu hwnt i Glawdd Offa.

Am gyfnod hir o dan gyfundrefn Warren Gatland roedd symud tu hwnt i Glawdd Offa i chwarae'n cael ei ystyried yn anfanteisiol ac yn ffactor fyddai'n cyfri yn erbyn yr unigolyn pan fyddai'n trafod dewisiadau.

Doedd hi ddim yn gyfrinach nad oedd y gŵr o Seland Newydd am weld ei chwaraewyr gorau'n codi pac, a hynny'n bennaf oherwydd y diffyg amser fyddai'r chwaraewyr hynny ar gael i'r tîm cenedlaethol.

Yn y bôn doedd dim byd afresymol yn hynny o beth, a Gatland yn mynnu byddai cadw'r chwaraewyr nid yn unig yn gwella'r gêm ddomestig, ond hefyd yn gwarchod y chwaraewyr.

Nôl yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc dair blynedd yn ôl dim ond pump o'r garfan o 33 oedd yn chwarae tu hwnt i Gymru.

Roedd hynny pan oedd 'rheol Gatland' yn ei hanterth - rheol oedd yn caniatáu i chwaraewyr oedd â 60 o gapiau neu'n fwy yn unig oedd â'r hawl i chwarae yn Lloegr, Ffrainc neu du hwnt.

LakeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Capten Caerloyw a Chymru, Dewi Lake

Roedd y syniad yn un i'w ganmol ond y gwir yw, yn wahanol i Seland Newydd a Lloegr sy' wedi mabwysiadu polisïau tebyg, dyw'r dyfnder yn syml ddim yn bodoli yma yng Nghymru.

Roedd diwygio'r rheolau i isafswm o 25 cap nôl yn 2023 yn gyfaddefiad gan Undeb Rygbi Cymru nad oedd y rheol yn un oedd modd ei weithredu.

Mae 'na unigolion amlwg wedi dioddef yn sgil y polisi - doedd Rhys Webb ddim yn gymwys ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan yn 2019, ac bu'n rhaid i Joe Hawkins wylio'r gystadleuaeth yn Ffrainc pedair blynedd yn ddiweddarach o'r ymylon.

Erbyn hyn mae'n rhaid gofyn pa mor effeithiol neu angenrheidiol yw cael rheol o'r fath - mae 15 o'r garfan bresennol yn chwarae i glybiau yn Lloegr a Ffrainc, a naw o rheiny'n dechrau'r gêm gyntaf yn erbyn Japan.

Disgrifiad,

Cymry Caerloyw: Dewi Lake a Jac Morgan

Yw'r rhod yn troi felly? Yr hyn sy'n amlwg yw bod 'na newid meddylfryd o fewn y gyfundrefn hyfforddi sy'n uniaethu fwy â dyhead ac uchelgais y chwaraewr.

"Dwi wedi dewis ar sail perfformiadau", meddai Steve Tandy.

Aeth ymlaen: "Doedd daearyddiaeth a ble roedd y chwaraewyr wedi eu lleoli ddim o dan ystyriaeth.

"Mae'n gyffrous i ni fel grŵp hyfforddi oherwydd ma' nhw'n profi her wahanol, ac mae'r ffaith fod cynghreiriau eraill yn ceisio denu talent o Gymru mewn ffordd yn rhywbeth positif. Yn ddelfrydol fyddai mwy yn chwarae yng Nghymru ond dyna'r realiti ar hyn o bryd."

Tomos WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Williams, sydd gyda Saracens, yn ceisio dianc o grafangau ei gyd-Gymro, Aaron Wainwright, o Gaerlŷr

Dyw'r newid tôn yma ddim yn annisgwyl - fe benderfynodd Tandy ei hun godi pac ar ôl gadael y Gweilch ac ail-ddiffinio'i hun fel hyfforddwr yr amddiffyn gyda'r Waratahs yn Awstralia.

Roedd hynny'n gam mawr iddo a'i deulu ifanc ar y pryd, ond yn sail i'w lwyddiant ers hynny wrth symud i'r Alban yn rhan o dîm hyfforddi Gregor Townsend ac yn rhan o dîm hyfforddi'r Llewod yn 2021.

Steve TandyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Steve Tandy, prif hyfforddwr y garfan genedlaethol ers Gorffennaf 2025

"Mae'n rhaid bod yn ben-agored ynglŷn â'r pethau yma", medd Tandy.

"Dwi wedi ehangu fy ngorwelion drwy symud i Awstralia ac yna'r Alban. Yn aml iawn mae'n fodd o ddysgu am eich hun, ac i ddysgu am fywyd tu hwnt i'r cae chwarae.

"Dydyn ni fel cenedl ddim yn cael ein hadnabod o bosib fel cenedl sy'n teithio'n dda, ac yn hiraethu am adref. Ond mae profi sefyllfa newydd yn cyfoethogi'r unigolyn ac yn ei wella fel chwaraewr yn y pen draw."

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jac Morgan, sydd wedi creu argraff fawr ers ymuno â Chaerloyw dros yr haf

Mae Aaron Wainwright, Dewi Lake a Jac Morgan i gyd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Lloegr eleni.

Wedi degawd ar Rodney Parade fe benderfynodd Wainwright ymuno â Chaerlŷr ac yn barod mae'r wythwr wedi dod yn ffefryn i ffyddloniaid Heol Welford, wrth helpu'r Teigrod at frig y tabl.

Roedd statws Lake a Morgan eisoes yn uchel nôl yng Nghymru ond mae hynny wedi cynyddu ymhellach ers symud i Gaerloyw. Ag yntau wedi arwain ei wlad ac ennill dau gap dros y Llewod roedd Jac Morgan ei hun yn mynnu roedd gymaint eto i'w gyflawni.

"Dwi'n teimlo mod i wedi ychwanegu i fy gêm, dwi'n cario'r bêl yn fwy ac wedi bod yn fwy amlwg yn ymosod, dwi 'di mynd i glwb newydd i barhau i wella a dysgu fel chwaraewr a'r gobaith yw y bydd hynny yn cael ei drosglwyddo i'r gêm ryngwladol".

Er 'does unman yn debyg i adra' yn ôl Gwyneth Glyn, mae mentro tu hwnt i'r filltir sgwâr yn dipyn o atynfa i'r garfan bresennol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig